#AtgofGen Busnes sychedig oedd ‘steddfota ym 1984!

Ble oedd mynd am beint adeg Eisteddfod Genedlaethol Llanbed gyda’r rheol dim alcohol ar y maes?

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Adroddwyd yn y Cambrian News ar y 1af Mehefin bod y Prif Arolygydd Bryn Jones mewn cyfarfod o Siambr Fasnach Llanbed, wedi rhybuddio tafarnwyr y dref i gyflogi staff ychwanegol a gweithwyr wrth y drysau er mwyn cadw ieuenctid o dan reolaeth. Cysurodd e bawb drwy ddweud y byddai heddlu ar ddyletswydd yn y dref 24 awr y dydd a byddai gweithgareddau eraill yn Theatr Felinfach, Tregaron a Llanybydder yn cael sylw’r heddlu hefyd.

Yn ôl Clonc Mehefin 1984, ymateb un cynghorydd wrth wrthod caniatâd i Gymdeithas Adloniant Cymru gynnal Twrw Tanllyd yn Neuadd Fictoria oedd ei bod hi o’r farn fod y dawnsfeydd yn “particularly loud and noisy” ac na fyddai’n deg i’r trigolion orfod dioddef sŵn felly am gyfnod hir o amser.

Yn y Western Mail ar yr 8fed o Awst, adroddwyd bod yr Ivy Bush yn Llanbed wedi cau ei drysau i eisteddfodwyr. Pwysleisiodd Tony Raczka y tafarnwr nad oedd hyn yn ddim byd yn erbyn yr eisteddfod ond yn ymgais i ofalu am ei fuddiannau ei hunan. Tynnwyd yr arwydd i lawr, a byrddiwyd y ffenestri.

Gyda dim ond dwy ystafell yn y dafarn, dywedodd y tafarnwr nad oedd digon o le ganddo i groesawu’r eisteddfodwyr, a dylai ei gwsmeriaid arferol ddefnyddio drws y cefn.

Ond roedd bwrlwm yn rhan fwyaf o dafarnau’r dref. Dyma sut y cofia Trefina Jones a oedd yn 19 oed ar y pryd.

“Fel yn ystod pob Eisteddfod yn y cyfnod yna, roedd un neu ddwy dafarn leol yn troi mewn i fangre ar gyfer yr ieuenctid i gyd. Y gyrchfan fwyaf poblogaidd yn Llanbed oedd Y Llew Du. Roedd Dilys a Glyn Jones newydd brynu’r Llew Du ac wedi adeiladu estyniad yn y cefn. Bu’r ddau’n ddigon call i beidio rhoi carped newydd nac addurno’r lle’n iawn cyn yr Eisteddfod ac os cofiaf yn iawn, dim ond concrete oedd ar y llawr. Fodd bynnag dyma’r lle i fod yn ystod yr Eisteddfod.

Roedd awyrgylch arbennig yn y dref gyda’r gigs Twrw Tanllyd yn cael eu cynnal yn Neuadd Fictoria neu byddai bysys yn gadael i fynd â ni i Neuadd Blaendyffryn neu Blandyff fel y bydden ni gyd yn galw’r lle.”

Daeth adroddiadau bod tafarnau Llanbed wedi codi pris cwrw 25c i £1 y peint. Ond cadarnhaodd John Evans o’r Castle Hotel bod lager dal yn 80c a chwerw yn 70c gyda fe.

Yng Nghribyn codwyd arwydd yn dweud “Cwrw ½ pris yfori” er bod yr arwydd yna bob dydd ac yfory byth yn cyrraedd!  Ar dudalen flaen y Western Mail ar y 9fed o Awst gwelwyd llun o Bethan Thomas, tafarnwraig y Mynach Arms yn dangos yr arwydd.  Dywedodd Islwyn Thomas, oedd yn rhedeg y dafarn gyda Bethan, fod y jôc wedi gweithio’n dda gan ddenu nifer o deithwyr drwy’r drysau.

Roedd Nick Heneghan tafarnwr Y Grannell Llanwnnen wedi gwario £750 ar babell a £300 ar dai bach dros dro er mwyn paratoi ar gyfer yfwyr ychwanegol yn ystod yr wythnos. Roedd wedi archebu 3,500 peint o lager a 2,000 peint o seidr, ond siomedig fu’r ymateb. Cyhoeddwyd yn y Western Mail ar y 10fed o Awst ei fod wedi gostwng pris peint o 10c gyda lager yn 70c a chwerw yn 60c. Yr un oedd y gwyn yn Nhafarn Cwmann er bod y Maes Pebyll gerllaw. Yn y dref yr oedd pawb yn cwrdd.

Er nad oedd hawl gwerthu alcohol ar faes yr Eisteddfod, ar ddydd Mawrth y 7fed o Awst adroddwyd yn y Western Mail bod un cwmni yn llwyddo i osgoi’r rheol hon drwy werthu crempog a oedd yn cynnwys alcohol. Am £1 yn unig roedd eisteddfodwyr yn gallu dewis crempog a siwgr yn cynnwys naill ai Rum, GrandMarnier neu Cointreau yn y traddodiad Llydewig.

Ond roedd holl fasnachwyr Llanbed yn hapus ar ddiwedd yr wythnos. Cafwyd adroddiad y Siambr Fasnach yn y Cambrian News ar yr 28ain Medi lle roedd y Cyng. Glyn Jones yn llongyfarch y swyddogion a’r pwyllgorau am Eisteddfod mor llwyddiannus.

Dywedodd Iori Davies, is-gadeirydd fod ‘yobo’ lleol wedi torri ffenestr siop leol ar y nos Sadwrn cyntaf ond cadarnhaodd yr heddlu na fu dim un weithred o fandaliaeth wedi hynny.

Doedd y gŵr ifanc oedd yn byw yn Ffynnon Bedr ddim yn ymwybodol ei fod wedi torri’r ffenestr tan i’w ffrindiau ei atgoffa o hynny. Ymddangosodd e o flaen Llys Ynadon Canol Ceredigion ym mis Ebrill 1985 wedi ei gyhuddo o achosi difrod gwerth £355 i eiddo D I Davies ar y 4ydd o Awst. Dywedodd y gŵr ifanc ei fod wedi meddwi a’i fod yn teimlo cywilydd ofnadwy. Cafodd ddirwy o £100.

Felly, o’r holl ymwelwyr a fu’n “particularly loud and noisy” yn y dref yn ystod wythnos yr Eisteddfod, un gŵr lleol yn unig oedd yn gyfrifol am ddod ag enw drwg i’r holl hwyl.