#AtgofGen Dydd Mercher braf yn Eisteddfod Genedlaethol Llanbed ond mwy o brotestio

Streic y glowyr a Chwotâu llaeth yn cael sylw a Geraint Howells yn dweud y dylem wrando ar yr ifanc.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Rhoddodd pawb eu wellingtons gadw heddiw gan fod y tywydd wedi gwella’n aruthrol yn Llanbed. Adroddwyd yn yr Evening Post bod y tymheredd wedi codi i’r 70au. 24 awr ynghynt y bu glaw mawr, ac er i’r caeau ddechrau troi’n fwd, roedd y cyfan bron â sychu’n llwyr erbyn bore ‘ma.

Cynhaliodd aelodau ifanc Cymdeithas yr Iaith brotest ar stondin y Swyddfa Gymreig fel cefnogaeth i’r glowyr oedd yn streicio ac i’r ffermwyr llaeth oherwydd y cwotâu. Taflwyd bwced o laeth dros yr arddangosiadau ym mhabell y Swyddfa Gymreig. Roedd tua 80 aelod o’r Gymdeithas yn protestio gyda 10 glöwr yn cefnogi a dwsin o ffermwyr yn y cefndir. Arweiniwyd y brotest gan Cen Llwyd ar ran Cymdeithas yr Iaith, a beirniadodd yn llym awdurdodau’r Eisteddfod am beidio â dangos cefnogaeth gadarnhaol i achos y glowyr a’r ffermwyr llaeth.

Yr aelod seneddol Geraint Howells oedd Llywydd y Dydd a hynny am yr ail dro yn y Genedlaethol gan iddo fod yn Llywydd hefyd yn Aberteifi yn 1976. Adroddodd yr Evening Post ei fod wedi pwysleisio y dylai’r Eisteddfod Genedlaethol wrando ar farn y bobl ifanc. Canmolodd Fudiad Ysgolion Meithrin a beirniadodd rieni oedd yn siarad Saesneg â’u plant. Apeliodd hefyd ar yr Eisteddfod Genedlaethol i beidio byth â newid y rheol iaith.

Fy Nyddiadur Personol – 8fed Awst

– Dyletswydd Cymorth Cyntaf ar y Maes heddiw.
– Canu gyda Chôr yr Urdd, Llanbed a chael ail ar y llwyfan.
– Swper Cymorth Cristnogol yng Nghaer Nant Cwmann a chael cwrdd â Hywel Gwynfryn!

Enillydd y Fedal Ryddiaith oedd John Idris Owen o Sir Fôn am ysgrifennu dyddiadur person yn gaeth mewn byncer yn dilyn ffrwydrad niwclear. Derbyniwyd 16 ymgais a’r beirniaid oedd John Fitzgerald, Dafydd Ifans a Rhiannon Davies Jones. Dywedodd y beirniaid yn y Cyfansoddiadau:

“Mae’n destunol, yn ddyfeisgar o ran cynllun ac yn cyflwyno cip ar thema enbyd o gyfoes o fewn patrwm ein hen chwedloniaeth. Mentrwn ddweud hefyd ei bod yn gyffrous a darllenadwy o’r dechrau i’r diwedd

Yr ydym ein tri yn unfrydol ein barn mai Nisien biau’r Fedal am eleni, a phob anrhydedd a berthyn iddi.”

Ar gyfer y seremoni hon, arweiniwyd yr Orymdaith gan Edwin Jones a D Simon Evans; Yr Organydd oedd Rhiannon Lewis; Arweiniwyd y canu gan Twynog Davies; Y Parti Dawns oedd Dawnswyr Talog; Y Ffanfferwyr oedd disgyblion o Ysgolion Uwchradd Llanbed a Thregaron; Canwyd Deuawd Cerdd Dant gan Janet a Glenda o Gapel Iwan; y Llefarydd oedd Sadie Jones; Yr Arwisgwraig oedd Elsie Davies; Cludydd y Fedal oedd Hedydd Huws; Cludydd y Gyfrol oedd Delyth Medi a Meistr y Ddefod oedd Derec Llwyd Morgan.

Canlyniadau’ r dydd: Cerddorfa Siambr: 1. Chwaraewyr Pontybrenin, Gorseinon; 2. Musica Cambrensis, Aberystwyth. Deialog i Ddysgwyr: 1. Dilys Hughes, Rhyl a Nan Brocklebank, Dyserth. Unawd Cerdd Dant 15-21: Nia Clwyd Williams, Peniel, Dinbych; 2. John Eifion Jones, Garndolbenmaen; 3. Bryn Terfel, Garndolbenmaen. Adrodd 15-18: 1. Anne Caroline Davies, Cynwyl Elfed; 2. Bethan Cairns, Clydach; 3. Mandy James, Bancffosfelen. Unawd Bariton Bas 18-25: 1. Bryn Terfel Jones, Garndolbenmaen; 2. Iwan Wyn Parry, Groeslon. Adrodd i Ddysgwyr: 1. Avril Evans, Llanidloes; 2. Elinor Louise, Llangoedmor; 3. Irena Fuller, Talyllychau. Canu emyn dros 60: 1. Eirlys Thomas, Dolgellau; 2. Gwen Owen, Pencaenewydd, Pwllheli; 3. T W Griffiths, Llandeilo. Unawd Soprano 18-25: 1. Rhian Owen, Llanberis; 2. Helen Mason, Penllergaer; 3. Nerys Jones, Trallwng. Parti Dawnsio Gwerin dros 16: 1. Parti Dawns Canolfan Caerdydd; Cydradd 2. Dawnswyr Talog a Dawnswyr Treforys; 3. Parti Nantgarw. Côr Pensiynwyr: 1. Côr Henoed Pontardawe; 2. Côr Pensiynwyr Aberteifi a’r Cylch; 3. Côr Bro Gele, Abergele. Côr Plant dan 16: Côr Plant Dwynant, Cwmann; 2. Côr yr Urdd, Llanbed; 3. Ysgol Uwchradd Tregaron. Dawns Stepio: 1. Parti Maesymeillion, Blaenycoed; 2. Parti’r Aithin, Rhydaman; 3. Parti Dawns Aberystwyth. Côr Meibion 41-70: 1. Côr Mynydd Mawr.

Enillydd Ysgoloriaeth W Towyn Roberts oedd Aneurin Huws o Aberystwyth. Y beirniaid oedd Syr Geraint Evans, John Stoddart ac Eileen Price, ac fe gyflwynodd Syr Geraint Evans yr ysgoloriaeth i Aneurin Huws ar lwyfan y pafiliwn wedi’r gystadleuaeth gyda’r hwyr.

Cyhoeddwyd yn Y Cymro:

“Mewn cystadleuaeth a ddisgrifiwyd fel un o’r goreuon yn hanes yr Eisteddfod, enillwyd Ysgoloriaeth W Towyn Roberts gwerth £1,800 gan ŵr o Gwmsymlog, Aberystwyth.

Yn ôl un o’r beirniaid, ’roedd y pedwar a ddaeth i’r llwyfan yn deilwng o’r Ysgoloriaeth ond Aneurin oedd wedi rhoi’r mwynhad mwyaf.”

Daeth tyrfa o 20,000 o bobl i’r eisteddfod heddiw.

Beth oedd ’mlaen gyda’r hwyr:
Noson Lawen Ffermwyr Ieuainc Ceredigion gyda Dai Jones, Llanilar, Tony ac Aloma, Dafydd Edwards, Evan Lloyd, Doreen Lewis, Leslie Williams, Teulu Hafod-y-Gân, Bois y Ferwig a’r Pedwar Strab o Felinfach yn y Pafiliwn am 10.30yh.
– Cwmni Whare Teg yn cyflwyno “Y Siaced” gan Urien William yn Theatr Coleg Dewi Sant, Llanbed.
– Cwmni’r Crwban ac Elfed Lewys yn cyflwyno “Bwrw’r Sul” gan R Gerallt Jones yng Nghapel Brondeifi, Llanbed. £2.50
Swper Go Iawn yng Nghae’r Nant, Cwmann. Agorwyd gan Hywel Gwynfryn. £2.00 a’r elw tuag at Gymorth Cristnogol.
– Noson Cymdeithas yr Iaith yng nghwmni Pedwar yn y bar a Phenderyn yng Nghlwb Rygbi Llanbed. £2.20
– Noson Clwb Cawl a Chân yng nghwmni Mabsant a Martin Geraint yng Nghlwb Rygbi Llanybydder. £2.00
– Noson Mudiad Adfer yng nghwmni Tecwyn Ifan ac Eirlys Parry yn y Llew Du, Llanybydder. £2.00
Rhydcymerau, Cyflwyniad gan Gwmni Theatr Brith Gof yn Hen Farchnad Llambed (tu ôl i Neuadd y Dref) £2.00
Twmpath Dawns Cymdeithas Dawns Werin Cymru yng Ngwesty’r Plu, Aberaeron. £1.50
Noson Jazz gyda Wyn Lodwig a’r Band, Deian Hopcyn, Ioan Gwynedd a cherddoriaeth eraill dan nawdd CAC yn yr Old Quarry, Llanbed.
Twrw Tanllyd gyda Derec Brown a’r Racaracwyr, Jin O’Rouke a’r Hoelion 8, Cwestiwn Da a Disgo Corwynt yn Neuadd Fictoria Llanbed.
– Noson Cylchgrawn Sgrech gyda’r Ficar a Louis a’r Rocyrs yng Nghlwb Tyglyn, Ciliau Aeron 8.00-1.00 o’r gloch.  Bysiau yn cychwyn o Lanbed am 7.30. £2.50
– Noson i’r teulu gydag Ar Log ac Elin ac Eleri ym Mlaendyffryn. £2.50
– Cwmni Cyfri Tri yn cyflwyno “Polka yn y Parlwr” yn Neuadd Sant Iago Cwmann.
Canu Gwlad yn y Foelallt Arms, Llanddewi Brefi.
Oedfa Bregethu gyda’r Parch Eifion Evans yng Nghapel Soar, Llanbed am 8 o’r gloch.
Dawns Werin Sefydliad y Merched Ceredigion gyda Erwyd a Brian yn Neuadd Ysgol Uwchradd Llanbed am 10.00yh. £1.00