#AtgofGen Dydd Iau siomedig yn Eisteddfod Genedlaethol Llanbedr Pont Steffan a’r fro 1984

4 ymgeisydd yn unig i’r gadair a cham i Gôr yr Eisteddfod ond enillydd lleol i Wobr Osborne Roberts.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Y Cadeirio yn Eisteddfod Genedlaethol Llanbedr Pont Steffan a’r fro 1984. Llun gan Tegwyn Roberts.

Fy Nyddiadur Personol – 9fed Awst
Gwerthu Clonc ar y Maes yn y bore yn ogystal â gwerthu tocynnau Barbeciw yn Llanwnnen.
Mynd â baneri’r Urdd o gwmpas y Maes yn y prynhawn.
Mynd i gyngerdd Llwyfan Llanbed yn y Pafiliwn yn y nos.

Ymddangosodd ail rifyn yr wythnos o Bapur Bro Clonc gyda llun “Dau Gardi – Dau Gyfaill!!” ar y dudalen flaen, sef y prifardd John Roderick Rees a’r Archdderwydd W J Gruffydd.

Rhai ffeithiau diddorol a ymddangosodd yn Clonc:

A wyddoch chi?
– mai’r ysgytlaeth mwyaf poblogaidd ydy’r ysgytlaeth mefus gyda’r ysgytlaeth banana yn ail iddo. Ar ddydd Mawrth gwerthwyd 100 o alwyni o ysgytlaeth ar y maes.
– fod y stondin doesennau ffres wedi gwerthu tua 2,600 o doesennau ar ddydd Mawrth. Mae’r stondin yma yn dod i Faes yr Eisteddfod bob blwyddyn ers 1974.
– mai eirin ac eirin gwlanog ydy’r ffrwythau mwyaf poblogaidd ar faes yr Eisteddfod. Mae ceirios a grawnwin yn gwerthu’n dda hefyd yn ôl y cwmni J H Williams a’i feibion, Llanbed.

Enillwyd y gadair gan Aled Rhys Williams o Abertawe am ysgrifennu awdl ar y teitl “Y Pethau Bychain”. Y beirniaid oedd T Llew Jones, Donald Evans a Dafydd Owen. Pedwar yn unig oedd yn cystadlu, ac mae’n debyg mai dyna’r rhif lleiaf ers 1915, pan gyflwynodd Syr T H Parry-Williams ei orchest ag awdl “Eryri”.

Trafodwyd yr awdl fuddugol gan Gwynn ap Gwilym yn Y Faner 24ain Awst,

“Oferedd yw mynd i’r afael yn feirniadol â’r awdl ddiflas hon, cans fe roddai hynny iddi anrhydedd trafodaeth nas haedda.”

Doedd dim pawb yn hapus â Chyngerdd Côr yr Eisteddfod a Cherddorfa Symffoni Gymreig y BBC gyda’r hwyr. Ysgrifennodd John Davies, Llanybydder lythyr at Clonc yn cwyno am y gwarth a gafodd y Côr yn sgil Cerddorfa Gymreig y BBC dan ofal arweinydd gwadd y noson, Mr James Lockhart.

Yn Y Cymro ar yr 28ain Awst wedi clywed recordiad o’r cyngerdd ar y radio, ymhelaethodd John Davies.

“Roedd safon y Côr lawer yn well na’r canu a glywyd ar y noson a’r blaen. Am dros flwyddyn bu tua thri chant o bobl cylch yr Eisteddfod yn rhoi o’u hamser a’u brwdfrydedd at lwyddiant yr Eisteddfod. Bu ymarfer dwys a chaled er mwyn inni roi ein gorau, nid yn unig i’r Eisteddfod ond hefyd i’n dau arweinydd, a fu’n gweithio’n galed i geisio creu Côr fyddai’n deilwng o’r Eisteddfod.

Siom felly oedd teimlo inni wneud y fath gawl ar noson hollbwysig y Cyngerdd – noson y bu edrych ymlaen ati gan bob aelod o’r Côr.

Y rheswm am y cawl oedd agwedd y Gerddorfa a’i harweinydd tuag atom ni fel Côr. Y bobl broffesiynol y noson honno oedd yr arweinydd a’r Gerddorfa – felly dylai yr arweinydd gwadd fod wedi cymryd mwy o sylw o’n gofynion ni fel Côr. I’r mwyafrif ohonom dyna’r tro cyntaf i ni ganu gyda cherddorfa ac felly’n naturiol roedd yna dipyn o ddiffyg hyder ar ein rhan.

Wnaeth yr arweinydd ddim gronyn o sylw o’r peth. Ei brif gonsyrn oedd y Gerddorfa. Gwthiwyd ni fel Côr i’r cefndir a hynny ar ein noswaith bwysig ni. Yr unig beth a arbedodd y noson i raddau oedd y ffaith fod aelodau’ Côr yn gwybod eu gwaith yn ddigon da.”

Wrth gyflwyno Dafydd Iwan yn y Stiwdio Gerdd yn y prynhawn, fe feirniadodd Rhiannon Lewis y cyfleusterau yno. Roedd hyn yn stori a ymddangosodd yn y Western Mail ar yr 10fed Awst gan fod sŵn o’r brif ffordd a sŵn pobl yn siarad tu fas yn amharu ar berfformiadau yn y babell. Dywedodd Rhiannon:

“Mae lleoliad a chyfleusterau’r Stiwdio Gerdd yn warthus. Dylid cael yr un cyfleusterau ar gyfer cerddoriaeth ar y maes â sydd yma i Theatr a Llenyddiaeth.”

Roedd adeilad newydd sbon ar gyfer y Babell Lên eleni a gostiodd £150,000, sef arian a ddaeth o gyllid y Swyddfa Gymreig. Ond adroddwyd gan W J Edwards yn y Western Mail hefyd bod y lle hwnnw’n dwym iawn.

“O’r adeg yr agorwyd y Babell Lên brynhawn Sadwrn, bu pawb wrthi’n canmol a son am ei ragoriaethau. Ond clywsom sawl un yn cyfeirio at y diffyg awyr iach o’i mewn.”

O ganlyniad i’r tywydd braf gwelwyd cynnydd yn y tyrfaoedd heddiw a mynychodd 27,000 o eisteddfodwyr.

Canlyniadau’r dydd: Deuawd dan 21: 1. Rhian Owen a Sian Wyn Gibson, Llanberis; 2. Carol Ann a Helen Medi, Garndolbenmaen; 3. Donna Aeron ac Elen Môn, Ffos-y-Ffin. Unawd Contralto: 1. Lavinia Thomas, Llandeilo; 2. Laura Hughs Jones, Amlwch; 3. Carol Longdon, Clydach. Unawd Alaw Werin 16-21: 1. Bryn Terfel Jones, Garndolbenmaen; 2. John Eifion Jones, Garndolbenmaen; 3. Jayne Evans, Pwll, Llanelli. Parti Cyd-adrodd dros 18: 1. Meillion Myrddin, Caerfyrddin; 2. Merched y Wawr Tregarth, Bangor; 3. Lleisiau Llifon, Caernarfon. Unawd Soprano: 1. Helen Gibbon, Caerfyrddin; 2. Eirwen Hughes, Penrhyncoch; 3. Rhian Jones, Rhosfawr, Pwllheli. Deuawd Cerdd Dant dros 21: 1. Janet a Glenda James, Capel Iwan; 2. Gaynor ac Eirian, Dolgellau; 3. Delyth a Tegwen, Dyffryn Dyfi. Unawd Bas: 1. Maldwyn Parry, Penygroes, Caernarfon; 2. Alun Jones, Trawsfynydd; 3. Aled Wyn Williams, Llanddewi Brefi. Côr Merched dros 16: 1. Côr Merched Edeyrnion, Corwen; 2. Camerata UMBC Maryland; 3. Côr Merched Hafren, Y Drenewydd.

Yn ennill Gwobr Goffa Osborne Roberts heddiw oedd Meinir Dwynant, Cwmann.  Cafwyd yr adroddiad canlynol yn rhifyn olaf yr wythnos o Bapur Bro Clonc:

Wedi ennill yr unawdau Tenor a Chontralto ddydd Mawrth a Dydd Mercher, daeth dau o gantorion ifanc lleol i’r llwyfan unwaith yn rhagor i gystadlu am Wobr Goffa Osborne Roberts.  Cyfarfu Timothy Evans a Meinir Dwynant yn yr un gystadleuaeth yn Llangefni y llynedd.  Y tro hwnnw ni fu yr un o’r ddau yn fuddugol.

Bryn Terfel a Rhian Owen oedd y ddau gystadleuydd arall.  Yr enillydd gyda chanmoliaeth uchel oedd Meinir Dwynant (Contralto).  Llongyfarchiadau gwresog iddi.  Hefyd llongyfarchion i’r tri arall am ennill eu cystadlaethau unigol ac am safon uchel cystadleuaeth y Wobr Goffa.

Beth oedd ’mlaen gyda’r hwyr:
Cyngerdd Côr yr Eisteddfod, Cerddorfa Symffoni Gymreig y BBC, James Lockhart (arweinydd), Patricia O’Neill (soprano), Eirian James (Soprano), Arthur Davies (Tenor) a Caryl Thomas (Telyn) yn y Pafiliwn am 7.30yh. £2.50
Llwyfan Llanbed dan nawdd Pwyllgor Rhys Thomas James Pantyfedwen Llanbedr Pont Steffan yng nghwmni Côr Telyn Teilo, Côr Meibion Llanelli, Côr yr Urdd Llanbed, Côr Telynau Cymru, Trebor Edwards, Angel Rogers Davies, Andrew O’Neill, Eirian a Meinir Jones, Delyth Medi Jones, Elfin Lewis, Grŵp Dwy a Dime, Sgets neu ddŵr, Cyfeilydd Rhiannon Lewis, Arweinyddion: Y Tad a’r Mab sef Goronwy a Rhidian Evans, yn y Pafiliwn am 10.30yh. £2.00
– Drama Gomisiwn yr Eisteddfod “Y Tadau a’n Cenhedloedd” gan Elfyn Jenkins yn Theatr Coleg Dewi Sant, Llanbed. £2.50
– Cwmni’r Crwban ac Elfed Lewys yn cyflwyno “Bwrw’r Sul” gan R Gerallt Jones yng Nghapel Brondeifi, Llanbed. £2.50
Cystadleuaeth Actio Drama Fer i rai dan 25 oed gyda Chwmni Aeron, Ysgol Uwchradd Tregaron ac Aelwyd Crymych yn Theatr Felinfach.
Rhydcymerau, Cyflwyniad gan Gwmni Theatr Brith Gof yn Hen Farchnad Llambed, (tu ôl Neuadd y Dref). £2.00
– Noson Cymdeithas yr Iaith yng nghwmni Tecwyn Ifan a Bwchadanas yng Nghlwb Rygbi Llanbed. £2.20
– Noson Mudiad Adfer yng nghwmni Delwyn Sion ac eraill yn y Llew Du, Llanybydder. £2.00
– Menna Elfyn, Eirlys Parry ac Elen Thomas yn gyfrifol am “Rhyw Ddydd” gydag Iola Gregory, Sharon Morgan ac Eirlys Parry yn yr Old Quarry, Llanbed. £2.50
Twrw Tanllyd gyda Y Ficar, Pethma, Rohan a Disgo Corwynt yn Neuadd Fictoria, Llanbed. £3.00
– Urdd Gobaith Cymru yn cyflwyno Geraint Jarman a’r Cynganeddwyr, Brodyr, Ffenestri a Mabinogi yn Neuadd Goffa Aberaeron. £3.25
– Noson i’r teulu gyda Jim O’Rouke a’r Hoelion 8 a Mynediad am Ddim ym Mlaendyffryn. £2.50
– Cwmni Hwyl a Fflag / Sgwâr Un yn cyflwyno drama newydd Gareth Miles “Ffatri Serch” gyda Clive Roberts, Mari Gwilym, Eirlys Hywel, Wyn Bowen Harris a Cefin (Hapnod) Roberts yn Neuadd Ysgol Gyfun Aberaeron. £3.00
– Cwmni Cyfri Tri yn cyflwyno “Polka yn y Parlwr” yn Neuadd Sant Iago Cwmann.
Oedfa Bregethu gyda’r Parch Hywel Davies yng Nghapel Soar, Llanbed am 8 o’r gloch.

1 sylw

Sara Down-Roberts
Sara Down-Roberts

Diolch yn fawr am eich erthyglau hynod ddifyr. Ydi mae’n ddifyr bod y papurau yn cyfeirio at gyfeillgarwch yr archdderwydd Elerydd a John Roderick Rees. Mae’n sicr eu bod wedi bod yn gyfeillion yn yr ysgol er bod WJ ryw bedair blynedd yn hynach na JRR ond ar ol Eisteddfod Genedlaethol 1964 dwi’n cofio fy nhad, ffrind i JRR, ddweud nad oedd cymaint o Gymraeg rhwng y ddau? Pam meddech chi – wel cythraul y Goron! Roedd T H Parry-Williams am goroni John Roderick, Eirian Davies am goroni Rhydwen Williams a phwy oedd y beirniad arall – wel WJ (Elerydd). Doedd e ddim yn gwybod pwy oedd pwy o ran y cystadleuwyr ond fe ddewisodd yntau Rhydwen Williams yn lle y bardd o Benuwch – a na doedd JRR ddim yn hapus. Eironig braidd mai fe oedd yr archdderwydd adeg Prifwyl Llambed – o weld y gair ‘cyfeillion’ meddwl bod hi’n ddifyr nodi fod yna rywfaint o chwerwder (o ochr JRR beth bynnag). Ysgol Uwchradd Tregaron yw’r ysgol orau yn y byd wrth gwrs ond efallai nad yw’r cyfeillgarwch rhwng disgyblion yn para am byth pan mae mater fel Coron y Genedlaethol yn y fantol!

Mae’r sylwadau wedi cau.