#AtgofGen Sylwadau Ysgrifennydd y Pwyllgor Gwaith

Ambell i atgof o Eisteddfod Genedlaethol Llanbedr Pont Steffan a’r fro 1984.

gan Goronwy Evans

Lluniwyd logo Eisteddfod Genedlaethol Llanbedr Pont Steffan a’r fro 1984 gan y diweddar Eric Slaymaker. Erys y logo mewn mannau yn y dre o hyd ac mae un yma gyda ni yn y Mans.

Tri o Swyddogion y Pwyllgor Gwaith sy’n dal yn fyw, yr Is-Gadeirydd, Aneurin Jones; yr Ysgrifennydd Ariannol, Tudor Davies a finnau fu’n Ysgrifennydd Cyffredinol. Yn ogystal hefyd bȗm yn Gadeirydd y Pwyllgor Cyhoeddusrwydd. ‘Rwy’n cofio i mi gael y gwaith o gasglu hysbysebion i’r Rhaglen Swyddogol a chael yr ymateb syfrdanol o blith busnesau’r dref a threfi cyfagos. Yn ôl y Trefnydd, Idris Evans roedd hyn yn record. Pwy sy’n dweud bod y cardi yn fên! Person pwyllog a darbodus yw e’.

Wythnos gofiadwy oedd cyhoeddi’r Ŵyl, gyda Llanbed dan ei sang drwy’r wythnos. Hir y cofir englynion y Parch. Dafydd Marks yn estyn croeso. Dyma rai ohonynt :- 

Bydd Llanbed er lleied lle’n – brifddinas

Braf ddoniog yr awen,-

Crefft a chelf yn eu helfen

Yn bwrw hud ar ein bro hen.

 

Dowch felly, Gymry, i’n gŵyl – yn wresog

Bydd croeso i’ch disgwyl;

Hapus a theg fo’ch egwyl

Ym miri Awst. Boed mawr hwyl.

Pan ddaeth Mis Awst 1984 roedd yna “fawr hwyl”. Maes arbennig a’r tywydd yn wych er weithaf bwganod yr wrth-Eisteddfodwyr yn taenu negeseuon megis :-

Ni fyddai’n ddiogel i neb gerdded strydoedd y dref ar ben ei hun, wedi nos yn ystod wythnos yr Eisteddfod; Ni fyddai’r un ffenest yn gyfan yn y dref erbyn diwedd yr wythnos;

Byddai’n berygl einioes i fod yn agos i Heol y Bryn ar nosweithiau pan fyddai Twrw Tanllyd yn Neuadd Fictoria; ac ni fyddai’n ddiogel i fynd ar gyfyl y Maes Carafannau wedi nos.

Bu’r gwrth-Eisteddfodwyr wrthi’n brysur yn taenu pob math o fygythion a storiau disail i greu rhwystrau, diflastod ac ofn. Gwrthbrofwyd pob bygythiad a haeriad a chafwyd wythnos i’w chofio. Gwrthbrofwyd y syniad hynny bod tref Llanbed yn rhy fach i gynnal Gŵyl mor fawr. O fewn cof awdurdodau’r Eisteddfod ni welwyd maes mor hwylus a delfrydol â hwn.

Lliwiwyd Seremoniau’r wythnos gydag urddas a bu hiwmor ac agosatrwydd yr Arch-dderwydd newydd, y Prifardd W. J. Gruffudd yn gyfrwng i ddenu mwy a mwy i’w mwynhau a’u gwerthfawrogi.

Dydd Iau y Cadeirio, dim ond penol un ferch oedd i weld, a hithau wedi mynd yn sownd wrth ddringo’r pafiliwn oddi allan i gael gweld y Seremoni. Ymhen blynyddoedd trwy ymchwil Eifion Davies, Clonc a Iola Wyn, BBC datgelwyd pwy oedd perchennog y benol!!

Mae yna gymaint o hanesion a straeon i’w hadrodd. Fe fȗm i o dan warchae drwy gydol yr wythnos gyda’r Heddlu yn fy nilyn i bobman.  ’Roedd yna berson wedi fy mygwth ac yn awyddus i gael rhoi ei ddwylo arnaf!! Fe ddaw’r stori hynny i’r golwg mewn llyfr o’m heiddo a gyhoeddir erbyn Eisteddfod Genedlaethol Ceredigion Tregaron.

‘Roedd Edwin Jones, y Cadeirydd yn awyddus mai Eisteddfod y Werin oedd hon i fod. Y Pwyllgorau lleol oedd i’w rhedeg tan iddi orffen ar y nos Sadwrn. Dyna’n union fel y bu hi. Bron allech ei galw yn Eisteddfod Edwin!

Yn dilyn yr Eisteddfod cafodd nifer ohonom ein hanrhydeddu a’n derbyn i’r Orsedd. Siomedig oeddem nad oedd enw’r Eisteddfodwr blaengar a’r digrifwr a’r gŵr diwylliedig D. T. Lloyd, Llangybi yn un o rheiny. 

Canodd y Parch John Gwilym Jones gerdd i’r dôn ‘We’ll keep a welcome’ :-

Draw ymhell bydd lleisiau’n galw

Dros y meysydd mud,

“ o, dere nôl, o dere nôl

I’r fro hyfryta’n yn y byd”

Mae’r Ŵyl ar ffordd nôl i Geredigion a Thregaron y flwyddyn nesaf. Dymuniadau Gorau iddi.