Dyma gyfle ar ddechrau 2020 i ddymuno blwyddyn newydd dda i bob un ohonoch – gan ddymuno pob hapusrwydd ac iechyd i chi drwy gydol y flwyddyn.
Bu 2019 yn flwyddyn heriol a dweud y lleiaf ym myd gwleidyddiaeth. Yn y pen draw, bu i holl anrhefn a thrybini San Steffan arwain at alw etholiad brys, a hynny ynghanol misoedd llwm y gaeaf. Bu hon yn ymgyrch etholiadol tra gwahanol i’r un yn 2017 – gyda’r tywydd garw yn adlewyrchiad, ar brydiau, o deimladau cryfion etholwyr Ceredigion.
Nid Brexit oedd yr unig fater oedd pobl eisiau’i godi ar stepen drws yn ystod yr ymgyrch. Roedd pobl hefyd yn awyddus iawn i drafod materion megis y Gwasanaeth Iechyd, yr economi leol, tai a dyfodol y diwydiant amaeth – y pynciau hynny sy’n effeithio’n sylweddol ar ein bywydau a’n cymunedau.
Braint o’r mwyaf oedd cael fy ailethol yn Aelod Seneddol dros Geredigion ar y 12fed o Ragfyr. Rhaid dweud fy mod i wedi cael sioc aruthrol o glywed maint y mwyafrif, a dwi’n eithriadol o ddiolchgar i etholwyr Ceredigion am roi eu ffydd ynof unwaith yn rhagor.
Bu i mi ddychwelwyd i Lundain yn syth ar ôl cael fy ailethol, ac roedd yn amlwg o’r cychwyn cyntaf y byddai pethau’n dra gwahanol yn y Senedd y tymor hwn, dan lywodraethiant Boris Johnson a’r mwyafrif sylweddol sydd ganddo erbyn hyn. Fy ngwaith i o hyn allan fydd dwyn y Llywodraeth Geidwadol i gyfrif ar bob darn o ddeddfwriaeth, ond wrth reswm bydd hynny’n anoddach o lawer yn sgil y mwyafrif sydd gan y Prif Weinidog.
Yn ogystal ag amddiffyn buddiannau pobl a chymunedau Ceredigion yn y Senedd yn San Steffan, byddaf yn gweithio’n ddiflino ar lawr gwlad yn y sir hefyd. Byddaf yn parhau i gynnal cymorthfeydd wythnosol mewn gwahanol leoliadau ar draws y sir a byddaf i, neu aelodau’r tîm yn Llanbed, bob amser ar gael i helpu etholwyr mewn angen. Mae croeso i chi gysylltu â mi unrhyw bryd: ben.lake.mp@parliament.uk / 01570 940333.
Mae’n fraint cael cynrychioli Ceredigion – bro fy mebyd – yn San Steffan, ac rwy’n edrych ymlaen at gynrychioli holl etholwyr y sir dros y pum mlynedd nesaf. Gyda’n gilydd gallwn wneud gwahaniaeth.
Blwyddyn newydd dda i chi gyd!