Cynhaliwyd cystadleuaeth Siarad Cyhoeddus Cymraeg Ffederasiwn Ffermwyr Ifanc Sir Gaerfyrddin ar Ddydd Sadwrn, 25ain o Ionawr yn Ysgol Gynradd Nantgaredig. Cafwyd gwledd o gystadlu mewn pedair adran wahanol gyda nifer fawr o glybiau’r Sir yn cystadlu.
Diolch yn fawr iawn i Ysgol Gynradd Nantgaredig am adael i ni ddefnyddio’r Ysgol, diolch hefyd i’r stiwardiaid am sicrhau fod y diwrnod yn rhedeg yn llyfn. Rydym hefyd yn ddiolchgar iawn i’r holl hyfforddwyr am roi o’i hamser i hyfforddi’r aelodau. Diolch yn fawr iawn i’r holl feirniaid am eu gwaith gwych yn ystod y dydd.
Pob lwc i bawb fydd yn cynrychioli C.Ff.I Sir Gâr ar lefel Cymru ym Mis Mawrth!