91 oed a cherdded o amgylch ei gartref yn Silian 91 o weithiau

Codi arian tuag at Apêl Hywel Dda Covid-19

Eryl Evans
gan Eryl Evans

Ar Ebrill 18fed, bydd Rhythwyn Evans, Tan y Graig yn dathlu ei ben-blwydd yn 91 oed. Flwyddyn yn ôl, cafodd ddiwrnod bythgofiadwy wrth i nifer fawr o deulu, cymdogion a ffrindiau ymuno ag e i ddathlu carreg filltir arbennig iawn.

Yn amlwg, nid yw hyn y bosib eleni, ac i nodi ei ben-blwydd yn 91 hoffai wneud rhywbeth a fydd yn elwa’r gymuned. Felly, wedi ei ysbrydoli gan Gapten Tom Moore, mae wedi gosod her bersonol i gerdded o amgylch ei gartref 91 o weithiau mewn 1 diwrnod, er mwyn helpu curo’r epidemig Covid-19.

Hoffai Rhythwyn gefnogi ei fwrdd iechyd leol, sef Hywel Dda, a hynny fel arwydd o ddiolch am waith arbennig y gweithwyr o fewn y maes. Mae’r arian yma yn mynd at Apêl Hywel Dda Covid-19, sy’n cael ei drefnu gan Elusennau Iechyd Hywel Dda.

Bydd pob ceiniog yn cael ei wario ar gefnogi lles staff a gwrifoddolwyr yr NHS sy’n gofalu am gleifion COVID-19. Felly, os ydych yn dymuno cefnogi’r achos teilwng hwn, a hynny mewn adeg o wir angen, mae croeso i chi wneud hynny drwy’r dudalen Just Giving.

Llawer iawn o ddiolch am eich diddordeb a’ch cefnogaeth, a chadwch yn ddiogel.