Mae Cyngor Cymuned Llanwenog wedi ennill Gwbor ‘Prosiect Treftadaeth Gorau’ Cymru yng ngwobrau Un Llais Cymru 2020. Dyma’r trydydd tro iddynt dderbyn gwbor gan Un Llais Cymru am y gwaith cymunedol y maent yn eu cyflawni.
Prynodd Cyngor Cymuned Llanwenog 6 o’r hen giosgs ffôn haearn bwrw coch yn 2009 oddi wrth BT am £1. Mae pob un o’r ciosgs ym Mhlwyf Llanwenog. Roedd y Cynghorwyr Cymuned yn teimlo ei bod yn bwysig eu cadw yn y gymuned, yn hytrach na chael gwared â nhw’n llwyr o’r safle, gan mai’r teimlad oedd eu bod yn rhan o dreftadaeth y cymunedau.
Yn wir, rhestrir rhai o’r ciosgs gan CADW, un ym mhlwyf cyfagos Capel Dewi, yn giosg coch math K6 a adeiladwyd o haearn bwrw yn ôl cynllun safonol yn 1936 gan Giles Gilber Scott.
Mae’r ciosgs yn cynnwys plât ffowndri boglynnog “Lion Foundry Co Ltd, Kirkintilloch’”.
Unwaith y gwnaed y trosglwyddiad i’r Cyngor Cymuned gan BT, cafodd y ffonau eu tynnu allan. Aeth y Cyngor ati i’w glanhau a’u paentio a gosod hysbysfwrdd ymhob un ohonynt, a’u gwneud ar gael i bob un o’r 10 pentref / pentreflan yn y Plwyf.
Cysylltodd grŵp cymunedol ‘Pobl Cwrtnewydd People’ â’r Cyngor i ofyn a allent osod silffoedd yn y ciosg yng Nghwrtnewydd i’w defnyddio’n Siop Cyfnewid Llyfrau; cefnogwyd hyn a gosodwyd arwyddion ar y ciosg. Y cam nesaf oedd fod pentref cyfagos, Drefach, eisiau gwneud yr un peth. Bu’n fenter lwyddiannus iawn ac mae llyfrau o bob math ar gael, ynghyd â chylchgronau a jig-sos.
Yna cysylltodd Sioe Cwmsychpant â’r Cyngor, gan eu bod wedi codi arian i brynu tri diffibriliwr. Gofynasant a ellid eu gosod yn y ciosgs, a gwnaed hynny ar unwaith, ac mae pwyllgor y Sioe yn gyfrifol am archwilio’r peiriannau bob wythnos.
Yna cafodd yr arwyddion ‘Ffôn’ uwchben drysau’r ciosgs eu newid i arwyddion ‘Diffibriliwr’ yn yr un ffont. Ac ym mis Awst penderfynwyd paentio’r tri chiosg sy’n cynnwys diffibrilwyr mewn lliw leim gyda sticyr chevron adlewyrchol o gwmpas y drws.
Mae’r Cyngor wedi sicrhau defnydd newydd i’r ciosgs, sy’n rhan annatod o dreftadaeth ein pentrefi, fel y gall cenedlaethau’r dyfodol eu mwynhau am amser maith i ddod. Beth am fynd ati i drafod y syniad yn eich Cynghorau Cymuned chi?