Ers rhai wythnosau bellach yn dilyn cyhoeddiadau Llywodraeth Cymru mae un peth yn gyffredin am bawb – rhaid gwisgo gorchudd wyneb mewn lle cyhoeddus.
Felly, i fod “ar flaen y gâd”, mae swyddogion Papur Bro Clonc wedi mynd i ofyn i gwmni lleol sef Mwnci Ffwnci sy’n argraffu ar ddillad i ddod lan â’r syniad o roi logo CLONC ar fwgwd.
“Diogelu’n gwirfoddolwyr rhag yr haint yw’r nod yn ystod y cyfnod hwn a rhoi plyg i’r papur bro wrth gwrs”, medd Dylan Lewis, cadeirydd CLONC.
Mae rhain i gael mewn 2 liw gennym sef du ac arian. Mae rhain yn fygydau 3 haenen 100% cotwm.
Os hoffech chi wisgo un i hysbysebu ein Papur Bro – maent ar werth am £5 yr un. Cysylltwch â’r Cadeirydd neu’r Trysorydd cyn bod y stoc cyfredol yn gorffen!!
Ai Papur Bro Clonc yw’r Papur Bro cyntaf yng Nghymru i gynhyrchu mwgwd gydag enw’r papur arno?