Cofio ymweliad y Cyn-Arlywydd â Thafarn y Ram

Jimmy Carter yn galw am ginio gyda Wynne a Mary 25 mlynedd yn ôl.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Y cyn-arlywydd Jimmy Carter a’i wraig Rosalynn tu fas y Ram gyda Evan ac Anne Davies, David Moore, Alwyn Davies, Aled Davies, James Brown, Sarah Moore a Mary Davies. Llun a bostiwyd gan James Brown ar dudalen Old Lampeter Photos ar facebook yn ddiweddar.

Mae’n chwarter canrif ers i gyn-arlywydd America – Jimmy Carter ymweld â Thafarn y Ram, Cwmann tra ar ei wyliau yn Llanio.

James Earl “Jimmy” Carter Jr oedd 39ain Arlywydd yr Unol Daleithiau rhwng 1977 a 1981 ac enillodd Wobr Heddwch Nobel am ei waith dros hawliau dynol yn 2002.

Ond ar Awst y 10fed 1995 y cafodd brofiad cofiadwy o ymweld â chynesrwydd tafarn cartrefol adnabyddus Y Ram yng Nghwmann.

Wynne a Mary Davies oedd y tafarnwyr ar y pryd, ac mae ganddynt atgofion byw o’r ymweliad arbennig.

Dyma fel y cofnodwyd y digwyddiad ym Mhapur Bro Clonc Medi 1995.

“Roedd y bodyguards wedi bod gyda ni rai wythnosau cyn hynny, gan ofyn i ni gadw’r ymweliad yn gyfrinachol,” meddai Wynne “a nhw oedd yn talu ar ran y cyn-arlywydd ar y diwedd.”

“Roedden nhw fod gyda ni am un o’r gloch a chyrhaeddodd y ddau gyda dau o’u hŵyrion a’u entourage tua ugain munud wedi, ac arhoson nhw tan ryw hanner awr wedi pedwar.” esboniodd Wynne.

Ymfalchïa Mary ei bod wedi bwydo cyn-arlywydd “Ond dim ond toasties oedden nhw moyn.” ychwanegodd.

Jimmy Carter yn edmygu’r trugareddau yn Nhafarn y Ram. Llun gan Tim Jones.

”Hanner o shandy yfodd Mr Carter,” dywedodd Wynne a oedd tu ôl y bar, “ond roedd y bodyguards yn yfed peints o seidr.”

“Mynnodd Mr Carter fynd am wac rownd y dafarn, a roedd yn dangos diddordeb ym mhopeth fel y cwt cadno oedd yn hongian wrth y bar.” ychwanegodd Wynne.

Ar y pryd roedd Jimmy Carter, ei wraig Rosalynn a’u hŵyrion yn aros gyda Peter Bourne yn ei gartref yn Llanio. Arferai Peter fod yn Asiant Arbennig i’r Arlywydd yn y Tŷ Gwyn, ac ef a ysgrifennodd lyfr swmpus am Jimmy Carter.

”Ron nhw’n bobl neis iawn, dim byd rhy urddasol.” mynegodd Wynne ac yn ogystal â lluniau ac atgofion mae gan Wynne a Mary lythyr a ddanfonodd Jimmy Carter atyn nhw, o Lanio i ddiolch am y croeso.  Llythyr i’w drysori.

“We have never seen a more beautiful country than Wales,” oedd yr hyn a ddywedodd Jimmy Carter wrth Moc Morgan yn ystod yr un cyfnod o wyliau yng Nghymru. “And never have we seen people more friendly or hospitable than the Welsh who have welcomed us here.”

Roedd Wynne a Mary yn rhedeg y Ram rhwng 1989 a 2003 ac enillwyd gwobr CAMRA am y Dafarn orau yng Nghymru yn 1997 yn ogystal â bod yn bedwerydd drwy Wledydd Prydain.

Mary, Wynne a Jimmy Carter yn Nhafarn y Ram. Llun gan Tim Jones.

Mae Wynne a Mary wedi gwerthu’r Ram ers sawl blwyddyn bellach ac wedi ymddeol erbyn hyn i fyw yn Llanbed.  Mae Jimmy Carter yn 96 oed ac yn byw yn Plains, Georgia.  Fe yw’r cyn-arlywydd hynaf byw ac mae’n parhau i ryddhau datganiadau am bynciau gwleidyddol.  Ond mae Tafarn y Ram yn wag yn anffodus, a’r drysau wedi cau ers pymtheg blynedd.

1 sylw

cwmhalen
cwmhalen

Diolch am yr erthygl hynod o ddiddorol.

Mae’r sylwadau wedi cau.