Cynhaliwyd cystadleuaeth Drama Cymraeg a Saesneg C.Ff.I Sir Gâr yn Neuadd y Gwendraeth yr wythnos hon. Bu pedair noson o gystadlu brwd gydag un clwb yn cystadlu yn y Ddrama Saesneg a naw clwb yn y Ddrama Cymraeg.
C.Ff.I Llanymddyfri aeth a’r cwpan yn yr adran Saesneg gyda’i perfformiad o “Murder at the Moorhead Manor”. Yn yr Adran Gymraeg, C.Ff.I Llangadog daeth i’r brig gyda’i perfformiad o “i”, gyda C.Ff.I Llanllwni yn ail, a C.Ff.I Dyffryn Cothi (Du) yn drydydd. Llongyfarchiadau mawr i’r holl glybiau am berfformiadau gwych.
Fe aeth y gwobrau am yr unigolion gorau yn yr Adran Gymraeg a’r Saesneg i’r canlynol:
Fe fydd C.Ff.I Llanymddyfri a Llangadog yn cynrychioli Sir Gâr yn rownd derfynol y gystadleuaeth Ddrama ar lefel Cymru yng Nghaernarfon. Pob lwc iddynt.
Rydym yn ddiolchgar iawn i’n beirniaid sef Mr Euros Lewis am ei waith yn ystod yr wythnos. Diolch hefyd i bawb fuodd yn cynorthwyo yn ystod yr wythnos a diolch arbennig i Dafydd Lloyd George a Nia Thomas a fu’n gweithio’n ddiwyd wrth y golau a’r sain. Diolch arbennig hefyd i’r holl a fuodd yn helpu gyda’r parcio, yn y drws, gwerthu raffl a Swyddogion y Sir am fod yng ngofal y siop yn ogystal â chyflwyno’r dair noson.
Ni fyddai’r wythnos wedi bod yn bosib heb ein noddwyr sef Cyngor Sir Gaerfyrddin, Hefin Jones a HB Enoch & Owen a hefyd i Undeb Amaethwyr Cymru am noddi’r gwobrau.