Dydd Sadwrn 15fed o Awst cafodd cerfddelw newydd ei ddadorchuddio yn ymyl y Gofeb Ryfel ar Sgwâr Llanybydder.
Saith deg pum mlynedd yn ôl daeth diwedd i’r Ail Ryfel Byd pan ildiodd Siapan.
Roedd y seremoni wedi cael ei threfnu gan Major (Retd) L. G. Evans MVO RA, a adnabyddir yn Llanybydder fel Gary Evans, Cadeirydd Cyngor Cymunedol Llanybydder.
Dechreuodd y seremoni am 10.30yb gyda’r Canon Eileen Davies yn gweinyddu. Hefyd, darllenodd Major Gary Evans rai darnau o ddyddiadur John Rees Jones a fu’n garcharor rhyfel yn Burma am dair a hanner o flynyddoedd. Adnabuwyd ef yn ardal Llanybydder fel Johnny Wenallt.
Yn bresennol, roedd aelodau o Gyngor Cymuned Llanybydder, cyn aelodau’r Fyddin a’r Llu Awyr Prydeinig ac aelodau o deulu Alan Davies, Pistyllgwyn y crefftwr metal o Lanybydder a gafodd y fraint o wneud y gerfddelw.
Ar ôl y “Last Post” cafwyd dwy funud o ddistawrwydd.
Yn y seremoni roedd mab a merch Johnny Wenallt ac aelodau o’u teuluoedd. Nhw cafodd y fraint o ddadorchuddio’r gerfddelw a gysegrwyd er cof am Johnny Wenallt.
Alan Davies yw’r crefftwr metal sydd wedi dylunio a chreu cerfddelw’r Milwr. Y mae’r Milwr yn sefyll gyda’i ben i lawr ac yn cydio reiffl yn ei law dde gan wynebu’r gofeb.
Pan gafodd Alan y dasg o wneud y gwaith roedd rhaid iddo fe fynd ati i dynnu lluniau o’i syniadau. Wedyn roedd tipyn o amser wedi mynd i ail wneud y dyluniadau o sawl ochr. Pan oedd Alan yn hapus gyda’r dyluniad roedd rhaid gweithio mas faint o fetel oedd eisiau.
Does dim dull penodol i wneud cerfddelw. Mae’n rhaid canolbwyntio ar y sgetsau a mynd ati i greu gwahanol rannu o’r corff. Mae Alan yn torri darnau o fariau a’u plygu nhw i siâp. Mae’n tacio’r gwaith yn gyntaf a dim ond weldio fe i gyd at ei gilydd pan fydd e’n hapus gyda fel mae’n edrych.
Ar ôl weldio’r cyfan at ei gilydd bydd Alan yn defnyddio grinder i lyfnhau’r weldiadau. Aeth y Milwr ar daith i lawr yr M4 i gael ei galfaneiddio. Ar ôl cyrraedd nôl cafodd y Milwr arolygiad olaf yn barod i’w osod yn ei le wrth ymyl y Gofeb.
Dyma ychwanegiad hardd a chyfoes i’r pentref er mwyn cofio aberth miloedd o bobl ifanc fel Johnny Wenallt.