Eisteddfod leol ddigidol gynta’r byd!

Mwy na 150 o blant dan 12 yn cystadlu trwy fideo ac ar-lein yn Eisteddfod Capel y Groes

gan Luned Mair

Fel arfer ar y dydd Mercher wedi’r Pasg mae Capel y Groes, Llanwnnen dan ei sang ar ddiwrnod yr Eisteddfod. Ond eleni, yn anffodus, roedd y capel y dawel.

Dim plant, pobol ifanc ac oedolion yn canu a llefaru a dim cynulleidfa’n mwynhau’r holl gystadlu … yn yr adeilad o leia’. Ond, er fod pethau’n wahanol i arfer, mi gawson ni eisteddfod hynod o lwyddiannus a’r holl fwrlwm yn digwydd ar-lein.

Ar ben hynny, mi gafodd y digwyddiad fwy o sylw nag erioed o’r blaen gydag eitemau ar newyddion S4C a Radio Cymru a straeon ar golwg360 BBC Cymru Fyw.

Y syniad

Yn wreiddiol, mi wnaethpwyd y penderfyniad o ganslo Eisteddfod 2020, ond wedyn mi ddechreuon ni feddwl… Tybed a oedd modd cynnal Eisteddfod ychydig yn wahanol eleni, er gwaetha’ COVID-19?

Mi ddechreuon ni hysbysebu ar y gwefannau cymdeithasol, gan ofyn i rieni ddanfon fideos o’u plant yn canu a llefaru aton ni, yn ogystal ag e-bostio darnau llenyddol a chelf. Wrth i’r dyddiad cau agosau, mi roedd hi’n sioc anferth i weld bod dros 150 o blant ysgol gynradd o bob cwr o Gymru wedi cystadlu!

Roedd tipyn o dasg o flaen y beirniaid, Elin Haf Jones ac Enfys Hatcher Davies, a bu’r ddwy wrthi’n fishi yn ystod penwythnos y Pasg yn pwyso a mesur. Roedd Enfys ac Elin wedi eu plesio’n fawr gan safon y cystadlu ac â chanmoliaeth uchel i bawb oedd wedi cymryd rhan.

Ac felly, cyrraeddodd diwrnod yr Eisteddfod – y 15fed o Ebrill. Ond yn hytrach na’r capel, tudalen Facebook yr Eisteddfod oedd canolbwynt y cystadlu gyda channoedd yn gwylio ac ymateb. Roedd fideos o’r holl ganu a llefaru a’r gwaith celf a llên yn cael eu cyhoeddi ar dudalen Facebook Eisteddfod Capel y Groes. Roedd y canlyniadau holl-bwysig hefyd yn cael eu postio’n rheolaidd!

Yr Eisteddfod wahanol

Oedd, mi roedd hi’n Eisteddfod ’chydig yn wahanol i’r arfer. Ond r’yn ni’n gobeithio’n fawr fod pawb wnaeth gystadlu neu wylio’r holl fideos wedi mwynhau, ac r’yn ni’n hynod o ddiolchgar i bawb am eu cefnogaeth. Taenu ychydig o lawenydd yn y cyfnod rhyfedd hwn oedd y nod, ac r’yn ni’n gobeithio’n fawr ein bod ni wedi llwyddo!

Bydd yr enillwyr yn cael tysytsgrifau arbennig a phob cystadleuydd hefyd yn cael tystysgrif i ddangos eu bod wedi cymryd rhan.

Peidiwch â phoeni os na chawsoch chi’r cyfle i ddilyn y cystadlu ddoe. Mae’r fideos i gyd i’w gweld ar dudalen Facebook Eisteddfod Capel y Groes, a’r fideos o’r rhai a ddaeth i’r brig ymhob cystadleuaeth wedi eu cyhoeddi ar sianel YouTube Clonc 360 (https://www.youtube.com/user/clonc360). Mae’r holl ganlyniadau hefyd wedi eu rhestru fan hyn.

Diolch o galon i bawb am eu cefnogaeth i sicrhau Eisteddfod lwyddiannus, os ychydig yn wahanol, eleni. Er hynny, r’yn ni’n edrych ymlaen yn fawr i fod ’nôl yn y capel flwyddyn nesa’. Dydd Mercher Ebrill y 7fed 2021 amdani felly – welwn ni chi ’na!

Y Canlyniadau

Unawd dan 6:
1af – Efa Medi
2il – Bela Potter-Jones
3ydd – Greta Jones, Nel Edwards-Phillips a Sara Lewis

Llefaru dan 6:
1af – Efa Medi
2il – Harri Richard
3ydd – Alis Thomas a Non Thomas

Unawd 6-8 oed:
1af – Noa Potter-Jones
2il – Efan Evans
3ydd – Gwenllïan a Meia Elin Evans

Llefaru 6-8 oed:
1af – Lliwen Enlli Davies
2il – Gwenno Ruth Jones
3ydd – Efan Evans a Meia Elin Evans

Unawd 8-10 oed:
1af – Trystan Bryn
2il – Gwenllian Dafydd
3ydd – Rhun Potter

Llefaru 8-10 oed:
1af – Magw Fflur Thomas
2il – Magw Jên
3ydd – Bedwyr

Unawd 10-12 oed:
1af – Eiri Ela Evans
2il – Beca
3ydd – Fflur Meredith

Llefaru 10-12 oed:
1af – Beca
2il – Fflur Meredith
3ydd – Emrys ab Iestyn

Celf Cyfnod Sylfaen:
1af – Madog
2il – Bethan Llewellyn
3ydd – Elis Evans a Lisa ac Alaw Thomas

Llên Cyfnod Sylfaen:
1af – Gwen Thomas
2il – Noa Potter-Jones
3ydd – Esther Llwyd a Prys Rowcliffe

Celf Cyfnod Allweddol 2:
1af – Magw Jên
2il – Fflur Meredith
3ydd – Erin Potter-Jones

Llên Cyfnod Allweddol 2:
1af – Lleucu-Haf Thomas
2il – Erin Potter-Jones
3ydd – Magw Jên a Tomi-Jac Regan