Mae Clwb Ffermwyr Ifanc Pontsiân yn bwriadu cynnal ‘taith gerdded’ arbennig ar ddydd Llun y Pasg er mwyn codi arian at ddau ysbyty yn y de-orllewin.
Bwriad aelodau a ffrindiau’r clwb – sy’n cynnwys ambell enw adnabyddus – yw cerdded y pellter o 218 milltir sydd rhwng Caerdydd a Chaergybi (trwy Bontsiân) mewn un diwrnod, a hynny heb gymryd cam y tu hwnt i ffiniau eu cartrefi.
Mae’r cyfyngiadau a gyflwynwyd gan y Llywodraeth yn sgil yr argyfwng Covid-19 yn golygu nad oes hawl gan bobol adael eu cartrefi heb fod gwir rhaid.
Gan barchu’r cyfyngiadau hyn, bydd y rheiny a fydd yn rhan o’r Jog Off Corona yn cael eu hannog i gyflawni’r daith o’u cartrefi gyda help technoleg fodern.
Wrth i bobol naill ai cerdded, rhedeg neu seiclo rhan o’r daith, bydd yr holl filltiroedd yn cael eu cofnodi ar y feddalwedd Strava. Y gobaith yw cwblhau’r daith rhwng naw’r bore a phump yr hwyr ar y dydd Llun, gyda phob cerddwr neu grŵp o gerddwyr yn cyflawni faint bynnag y maen nhw’n gallu o filltiroedd.
Diolch i’r Gwasanaeth Iechyd
Bydd yr holl arian a godir yn ystod y diwrnod yn cael ei rannu rhwng unedau gofal dwys Ysbyty Glangwili yng Nghaerfyrddin ac Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth.
“Mae’r argyfwng Covid-19 yn golygu bod holl weithgareddau’r Ffermwyr Ifanc wedi’u gohirio am o leiaf y 12 wythnos nesaf,” meddai Teleri Evans, Cadeirydd CFfI Pontsiân. “Fodd bynnag, rydyn ni fel clwb am barhau i gynnig gweithgareddau i’n haelodau mewn ffyrdd amgen, gan barchu cyfyngiadau’r Llywodraeth ar yr un pryd.
“Bydd y ‘daith gerdded’ yn gyfle i aelodau a ffrindiau CFfI Pontsiân gael ychydig o hwyl dros gyfnod y Pasg. Bydd hefyd yn gyfle i godi arian at achos da ac i ddiolch i holl weithwyr y Gwasanaeth Iechyd am y gwaith y maen nhw’n eu cyflawni yn ystod y cyfnod heriol hwn.”
Bydd fideos o’r ‘daith gerdded’ yn cael eu rhannu ar dudalennau CFfI Pontsiân ar y cyfryngau cymdeithasol drwy gydol dydd Llun y Pasg. Bydd wedyn fideo o uchafbwyntiau’r diwrnod yn cael ei rannu ar y dydd Mawrth.
Ymhlith yr enwau cyfarwydd fydd yn ymgymryd â’r her mae’r cyflwynwyr Ifan Jones-Evans, y Welsh Whisperer, Geraint Lloyd a Meinir Howells, yr actorion Carwyn Glyn ac Aled Llŷr Thomas o Pobol y Cwm a’r canwr Aled Hall.
Os ydych chi’n dymuno noddi’r daith, dilynwch y linc hon.
Dim ond awr fach sydd i fynd cyn i ni ddechrau ar ein her⭐️⏰Diolch yn fawr i Alun Elidyr am y fideo yma, geiriau pwerus iawn! ??Cofiwch nad yw hi’n rhy hwyr i chi ymuno gyda ni heddiw- cofnodwch eich pellter, tynnwch lun ac yna anfonwch y wybodaeth i messenger y dudalen yma! Diolch i bawb sydd eisoes wedi cyfrannu, ond dyma’r linc i’r rhai sy’n dymuno gwneud ond sy’ heb wneud eto?https://www.justgiving.com/crowdfunding/teleri-evans?utm_term=rkEz6qeR9
Posted by CFfI Pontsian on Sunday, 12 April 2020