180 o focsys at bobl sydd wir angen

Ymgyrch lwyddiannus Canolfan Teuluol Llambed i helpu eraill y Nadolig hwn.

gan Lampeter family centre

Dros y blynydde rwyf wedi bod yn gwneud Bocsys Nadolig er mwyn anfon at bobl sydd wir angen rhwybeth bach i godi calon. Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn heriol iawn i lot o bobl, ac mae angen rhywbeth i roi gwên nôl ar eu hwynebau. Dyna pam roeddwn i wedi penderfynu eleni i wneud yr ymgyrch yma er mwyn roi teimlad o hapusrywdd i deulueodd lleol a phobl Hafan Deg.

Er mwyn gwneud hyn yn bosib, fe wnes i gysylltu gyda theuluodd, busnesau lleol, CFfI ac hefyd Sefydliad y Merched Coedmor.  Roedd yr ymateb yn angyhoel. Creuwyd poster er mwyn rhoi ysbrydolaeth o’r hyn fyse’n addas i roi yn y bocsys – rhyw fath o ‘check list’ ar gyfer helpu pobl i ddewis i ba oedranroedden nhw eisiau rhoi ayb.

Roedd yna sawl opsiwn ar gael, rhoi rhodd er mwyn medru creu bocs, neu i greu bocs llawn yn barod i fynd. Roeddwn yn teimlo bod hyn yn rhoi llai o bwysau efallai ar y bobl oedd eisiau cyfrannu ond efallai ddim yn medru paratoi bocs cyfan. Ac fel y dywedwyd yn Saesneg, ‘every little helps’ ac ydy, mae hyn yn hollol wir.

I fedru dosbarthu’r bocsys i’r teuluoedd roedd gwir angen, mi wnes i gysylltu gyda ysgolion lleol i weld pa blant oedd yn derbyn cinio ysgol am ddim ac i weld a fyse digon o focsys ar gael i bob un i’r unigolion hyn.

Ar ôl derbyn rhoddion a bocsys, rydym wedi llwyddo i greu 180 o focsys sydd yn anhygoel. Mae hyn yn profi fod pobl garedig a da iawn yn ein cymuned. Rydym yn dilyn canllawiau diogelwch ac mi fydd y bocsys yma yn cael eu gosod i naill ochr am 72awr cyn y byddwn yn eu dosbarthu.

Ni fyddai hyn wedi bod yn bosib heb y bobl sydd wedi rhoi felly diolch yn fawr iawn i bob un ohonoch. Dychmygwch y wên fyddwch yn rhoi ar wynebau’r pobl sydd yn eu derbyn.

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Gwell i chi gyd.