#AtgofLlanbed – Yn groten ysgol …

Atgofion Elin Williams o Eisteddfod RTJ Llambed, 1967 – 1974

Elin Williams
gan Elin Williams
620136211.306567

Gadael y pafiliwn ar ddiwedd sesiwn y prynhawn yn yr eisteddfod. (Roedd sesiwn y nos yn dechrau am 6 ac roedd angen tocyn arall wedyn). Mam (Vera James) yn y blaendir chwith yn dal llaw Iona, fy chwaer, yn 1968 neu 1969

620136403.149428-1

Cynulleidfa’r pafiliwn mawr. Mam (Vera James) a Iona, fy chwaer yn y rhes flaen ar yr ochr dde.

620150390.732213-1

Elin James, Dewis Riain Eisteddfod Llambed 1974. Yn 14 oed.

620136577.854592-1

Rhai o actorion ‘Pont Steffan, pa dref lanach?’ O’r chwith i’r dde: Maldwyn Hughes, Cissie James, Elin Williams (nee James), Eryl Jones, Delfryn James

620136713.317372

Disgyblion Ysgol Uwchradd Llambed a oedd mewn golygfeydd amrywiol yn ‘Pont Steffan, pa dref lanach’: O’r chwith i’r dde (cefn): Nans Davies (nee Williams), Shirley Owen (nee Thomas), Elin Williams (nee James), Rhiannon Lewis, Mair Potter (nee Williams), Eirian Jones, Meinir Jones-Williams O’r chwith i’r dde (blaen): Hefina Thomas (nee Evans), Lena Jenkins, Martin Jones, Haydn Harries, Joy Williams (nee Davies), David Keith Davies, Bernard Davies

A minnau’n 7 oed, ro’n i yn eisteddfod gyntaf RTJ Llambed yn 1967. Ond chofia i fawr ddim am y ffaith mai honno oedd yr un gyntaf. Mae’r eisteddfodau cynnar i gyd wedi toddi’n un yn fy nghof. Fodd bynnag, rwyf i yn cofio canu gyda balchder yng nghôr plant Margaret (E.T.) Lewis yn fy ffrog crimplîn lliw hufen gyda’r bow bach oren. Roedd rhai o’r lleill wedi cael ffrog oren a bow hufen, a ffrog fel honno ro’n i ishe! Nid cystadlu oedden ni, ond canu i groesawu pawb i’r eisteddfod. Rhywbeth a wnaed am sawl blwyddyn gan y côr wedyn, os cofiaf yn iawn. A bellach, dros hanner can mlynedd yn ddiweddarach, mae’r geiriau gan Edwin Jones ar y dôn ‘Merch Megan’ yn parhau i gael eu canu gan rywun lleol ar ddechrau’r ŵyl.

Y pafiliwn mawr a’r llwyfan ei hun yng nghae’r Ysgol Uwchradd sydd wedi ei serio gliriaf ar fy nghof. Roedd gan ein teulu ni ddwy sedd gadw yng nghanol y rhes flaen drwy gydol y cyfnod cynnar hwn. Byddai Mam yno o’r dechrau i’r diwedd – sesiwn y dydd a sesiwn y nos – a byddai’r diwrnod archebu tocynnau yn ddiwrnod pwysig er mwyn sicrhau’r un seddi yn flynyddol. Byddai Mrs Jones, Culmore a Sarah, ei merch, yn y ddwy sedd nesaf atom bob tro. Cofiaf y fflasg a’r brechdanau. Y borfa dan draed. A’r ryg er mwyn cadw’r coesau’n gynnes pan fyddai awel oer y nos yn chwythu heibio (roedd y rhes flaen yn oerach ond roeddech chi’n gweld yn well!). Yn sesiwn y dydd, Iona, fy chwaer fach, fyddai’n eistedd gyda Mam fel arfer tra mod i’n crwydro gyda fy ffrindiau. Byddwn i’n cael mynd i’r sesiwn nos hefyd ac mae gen i gof penodol o glywed llais cyfoethog Peter Davies, Goginan yn adrodd. Yn ôl y cofnodion, fe oedd enillydd yr adrodd dan 25 yn y flwyddyn gyntaf, yn 1967. Ond yr atgof byw sydd gen i yw ei weld yn cystadlu ar yr her adroddiad rai blynyddoedd wedyn (ar ôl iddo fod allan yn y dre yn ‘cymdeithasu’!!) ac yn byrfyfyrio a chyfansoddi barddoniaeth wrth iddo fynd yn ei flaen. A dal i swnio’n dda! 

Wnes i ddim cystadlu yn Eisteddfod Llambed yn y blynyddoedd cyntaf. Er mod i’n ymwneud llawer â ‘byd llefaru’ erbyn heddiw, do’n i ddim yn un oedd yn mynd o gwmpas eisteddfodau pan o’n i’n blentyn. Ac ro’n i’n ystyried ein heisteddfod ni’n ŵyl i blant profiadol. Yn credu nad oeddwn i’n yr un cae â nhw. Mae gen i atgof clir o weld Gwawr Owen, Glynarthen mewn ffrog felfed werdd yn canu ‘Nytmeg a sinsir a sinamon a mêl’ a meddwl ei bod hi’n ffantastig! Daeth cystadlaethau cyfyngedig yn rhan o Eisteddfod RTJ ym mhen blynyddoedd a byddai rheini wedi bod yn sbardun i rywun fel fi i gystadlu yn y blynyddoedd ‘oed cynradd’, mae’n sicr.  

Dechreuais gystadlu mwy pan o’n i yn yr ysgol uwchradd – y tro cyntaf, rwy’n credu, pan wnes i adrodd y soned ‘Sgrap’ gan Alun Cilie. Rhaid mod i tua 12 neu 13 oed, er does gen i ddim cof sut aeth pethau. Roedd yr adran ‘adrodd’ yn dal i osod testunau penodol, yn wahanol i’r adran gerdd oedd â chystadlaethau ‘hunan ddewisiad’. Roedd hyn yn apelio ataf achos doedd dim rhaid i fi gystadlu yn erbyn darnau hir rhai o’r lleill. Ro’n ni gyd yn dechrau yn yr un lle. Rwy’n credu bod y ffaith bod nifer o blant yn llefaru darnau hir a heriol heddiw yn gallu dychryn rhai cystadleuwyr llai profiadol.

Ond fe fues i’n stiwardio’n rheolaidd. Cofio mynd i’r rhagbrofion a chael y cyfrifoldeb o gario’r cardiau bach a nodai enwau’r rhai a gafodd lwyfan, a mynd â nhw lawr at y swyddogion yn y cae. Jobyn syml. Er hyn, ro’n i’n teimlo mod i’n cael fy ngwerthfawrogi a mod i’n rhan o’r eisteddfod. Roedd ymdrech fwriadol yn cael ei gwneud i dynnu pobol i mewn i’r gweithgareddau mewn nifer o ffyrdd. Y syniad o dîm gyda rhan i’w chwarae gan bawb. Credaf fod hyn yn un o allweddi llwyddiant ein heisteddfod.

Yn nes ymlaen, pan o’n i’n 14 oed, cynhaliwyd, am y tro cyntaf, gystadleuaeth ‘Dewis Riain’ i ferched ifanc (doedd dim cyfle tebyg i fechgyn, ac yn sicr, fyddai’r cysyniad ddim yn cael ei gymeradwyo heddi). Byddai disgwyl i’r enillydd fynd o gwmpas eisteddfodau eraill yn hyrwyddo Eisteddfod Llambed, ac wedi cyfweliad mewn twmpath dawns yn Neuadd Fictoria a cherdded o gwmpas mewn parêd (rwy’n anesmwytho wrth feddwl am y peth nawr), cefais i fy newis a derbyniais gwpan, sash a £15. Ro’n i wedi addo i Mam a Dad y byddwn i adre erbyn 9. Wedi’r cyfan, dyma oedd y tro cyntaf i fi fynd i ddawns a bod allan ar fy mhen fy hun. Ond gan mod i wedi fy ‘newis’, don i ddim am adael er ei bod yn agosáu at 10 o’r gloch. Roedd hi’n gyfrifoldeb arna i aros, on’d oedd? Ac ar ben hynny, ron i’n dechrau mwynhau cwmni a sylw un o’r bechgyn oedd yno! Yn ddiarwybod i fi, roedd rhaglen ar y teledu y noson honno yn ail-greu digwyddiadau a arweiniodd at lofruddiaeth dwy ferch ifanc ar eu ffordd adre o ddawns. Cymaint oedd pryder Mam amdanaf nes iddi fynd lan i’r dref ac i mewn i Neuadd Fictoria, a’m ‘tywys’ adre o flaen pawb! Dechrau anffodus i’m blwyddyn fel ‘Dewis Riain’ efallai, ond bu’n gyfnod diddorol wedyn, a bum yn siarad mewn sawl man, gan gynnwys llwyfan Gŵyl Fawr Aberteifi, gan wahodd pobol i gystadlu a dosbarthu rhaglenni ein Gŵyl ni. Fi agorodd ein heisteddfod y flwyddyn honno hefyd. Profiadau da iawn i ferch ifanc 14 oed.

Roedd llwyfan mawr y pafiliwn yn galw am berfformiadau a chynyrchiadau ‘mawr’. Roedd llawer o arloesi a blaengaredd yn y cynllunio. Cofiaf yn dda am nosweithiau ‘Cyfle’n Curo’ (gyda rowndiau rhagbrofol nosweithiol yn llenwi Neuadd Fictoria cyn i’r eisteddfod gychwyn) a chyngherddau ‘Yr hen ddyddiau gynt’ (pan fyddai pobol yn gwisgo mewn dillad Fictorianaidd neu Edwardaidd).

Bues i mewn dau berfformiad ar lwyfan Eisteddfod RTJ (bu mwy efallai, ond mae’r atgofion yn niwlog braidd). Teyrnged i Idwal Jones oedd un, a dwyf i ddim yn siŵr ai ym mlynyddoedd cynnar yr ysgol uwchradd ynte yn yr ysgol gynradd oeddwn i. Dwyf i ddim yn cofio chwaith pa un ai eitem estynedig ynte sioe gyfan oedd hi. Ond yng nghanol medli hir, rwy’n cofio canu am ‘y swigw las fach a’r ji-binc’ gyda Rhiannon Lewis a phoeni’n ofnadwy a fyddwn i’n gallu cadw at ran yr alto. Cafodd sioe am Idwal ei chyflwyno droeon wedyn – un wrth gyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol Llambed 1984 ac un arall wrth gyhoeddi Eisteddfod yr Urdd 1999. Ond hon oedd y prototeip rwy’n credu ac o ganlyniad mae geiriau a chaneuon Idwal Jones i gyd yn fyw yn fy nghof.

‘Pont Steffan, pa dref lanach?’ Dyna’r perfformiad arall. Tipyn o fenter! Roedd y pasiant a berfformiwyd yn y babell fawr yn 1974 yn un uchelgeisiol iawn gydag wythnosau o ymarfer dwys yn arwain at y perfformiad. Dyma’r flwyddyn gyntaf i’r eisteddfod gael ei chynnal dros ddau ddiwrnod, gyda llaw. Ysgrifennwyd y sgript gan J.R. Jones, prifathro Ysgol Llanilar ac fe gynhyrchwyd y gwaith gan Eiddwen James, prifathrawes Ysgol Llanfair Clydogau – y ddau wedi eu geni a’u magu’n gymdogion mewn tai ar y Cwmins yn Llambed. Roedd y cynhyrchiad yn cyflwyno hanes y dref drwy gyfnodau gwahanol – o ddyfodiad yr orsaf drên i Lambed yn 1866 hyd at gau’r orsaf i deithwyr yn 1965 (roedd nwyddau’n cael eu cario ar y trenau hyd at 1973, flwyddyn cyn y cynhyrchiad).

Roedd Dad (Delfryn James) yn chwarae rhan allweddol yn y perfformiad. Mae ganddo gof clir o’r olygfa agoriadol: “Ro’n i’n aros yn bryderus ar ben fy hun, mewn lifrai gorsaf-feistr yn disgwyl am y trên i gyrraedd Llambed. Cerdded nôl a mlaen ar y llwyfan gan dynnu oriawr o boced fy wasgod yn awr ac yn y man nes clywed chwiban y trên yn dod o gyfeiriad Llanybydder. Ar hynny, dyma’r platfform yn dod yn fyw gyda gwahanol gymeriadau yn llenwi’r llwyfan ac yn adlewyrchu bywyd a chymeriadau oes arall.”

Gan mai fe oedd y gorsaf-feistr, roedd yn pontio’r blynyddoedd ac yn gorfod bod ar y llwyfan drwy gydol y perfformiad – heb unman i guddio! Rwy’n cofio bod ei wallt yn mynd yn wynnach wrth iddo ‘heneiddio’ ac wrth i’r pasiant a’r blynyddoedd fynd yn eu blaen.

Roeddwn innau’n chwarae merch oedd yn ffarwelio â’i chariad a oedd yn gadael ar y trên i ymladd yn y rhyfel. Cofiaf yn glir leisiau Côr Cwm-ann yn canu, ‘Keep the home fires burning’, ond does gen i ddim cof pwy oedd fy ‘nghariad’ druan. Yn syth ar ôl hyn, roedd yn rhaid i fi newid yn gyflym iawn, iawn i wisg sipsi Romani a pherfformio dawns mewn golygfa hollol wahanol gyda fy ffrindiau. Dulcie James oedd wedi gwneud y coreograffi ac yn ein hyfforddi – person egnïol a wnaeth yr holl brofiad yn un hwyliog dros ben.

Mae’r cefnlen canfas, a grewyd yn arbennig ar gyfer y perfformiad ac sy’n darlunio tref Llambed, yn dal i gael ei ddefnyddio yn gefndir i lwyfan yr eisteddfod. Yn symbol o barhad.