Gwybodaeth am Gôr Corisma

Y nod o fwynhau cymdeithasu a chanu.

Côr Merched Corisma
gan Côr Merched Corisma

Sefydlwyd y Côr ym mhentre Cwmann, Llanbedr Pont Steffan gan Carys Lewis a Sian Roberts Jones yn 2006.

Ers hynny, mae’r Côr yn mynd o nerth i nerth ac wedi cyhoeddi CD ‘Cico Sodle’.

Wedi perfformio mewn neuaddau, capeli ac eglwysi yn lleol yn ogystal ag ar Radio Ceredigion, Radio Cymru ac ar raglen ‘Noson Lawen’ a ‘Dechrau Canu Dechrau Canmol’ ar S4C.  O ganlyniad, maent wedi cynorthwyo mudiadau lleol i godi symiau syweddol iawn tuag at elusennau.

Daw’r aelodau o Gwmann a’r cyffiniau.  Dyma griw llawen o ferched sydd wedi mynd heibio oedran cystadlu gyda’r Urdd a’r Ffermwyr Ieuainc.

Maent wrth eu bodd yn pinco a gwisgo lan i gael noson mas gyda’r nod o fwynhau cymdeithasu a chanu.

Cynhelir ymarferion yng Nghanolfan Gymunedol Cwmann bob yn ail nos Lun.  Croeso i gantorion newydd ymuno a’r cwmni cartrefol.  Mae hwyl yn y canu a llawer o dynnu coes yn perthyn i’r merched.