Gof o Lanbed yn torri record byd

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Dydd Iau diwethaf, torrwyd record byd am goginio’r Welsh Cake mwyaf a hynny yng Nghaerfyrddin, diolch i waith peirianyddol cwmni Teify Forge Cyf o Gwmann.

Kevin Jones o Teify Forge a gafodd y dasg o gynllunio ac adeiladu’r peiriant anferth i goginio’r Welsh Cake, a bu ef ac un o’i gydweithiwyr Dafydd Evans yng Nghaerfyrddin yn gweithio’r peiriant a goruchwylio’r coginio o flaen llygaid barcud cynrychiolydd Guinness World Records a chamerau S4C.

“Odd bach o wenwn arna i yn ystod yr wythnos,” dywedodd Kevin “achos rodd rhaid cal e’n iawn.”

Adeiladodd e’r peiriant unigryw yn yr efail yng Nghwmann a rhaid oedd ei gludo i safle Pencadlys S4C Yr Egin yng Nghaerfyrddin.  Roedd y peiriant yn cynnwys lle i gynnau tân oedd ar olwynion er mwyn gwresogi’r gradell anferth a fyddai’n gallu cael ei chodi ar ôl 4 munud i droi’r cynhwysion heb eu gollwng er mwyn coginio bob ochr.

Dafydd a Kevin yn goruchwylio’r gradell anferth. Llun: Wendy Evans.

Roedd yr ymgais hon yn rhan o raglen deledu a ddarlledir ar S4C cyn hir ynghyd â nifer o doriadau record byd eraill yn cydfynd â chyfnod Gŵyl Ddewi.

Y ceisiadau eraill oedd y 50m cyflymaf yn tynnu cwch cul gan fenyw ar ben draphont Pontcysyllte, y ddawns werin Gymreig fwyaf yn Ysgol Pennard, Abertawe, Tudur Phillips yn diffodd y nifer fwyaf o ganhwyllau gyda chliciau sawdl naid mewn un funud, nifer fwyaf o ‘knee catches’ pêl-droed mewn 30 eiliad gan Ash Randall a’r bwa dynol hiraf ar bromenâd Aberystwyth.

Crëwyd Y Welsh Cake anferth yng Nghaerfyrddin gan seren Great British Bake Off, Michelle Evans-Fecci, yn ogystal â thîm Tân y Castell a Merched Y Wawr Sir Gâr mewn cydweithrediad â Kevin a Dafydd o Teify Forge.

Y gwaith gorffenedig. Llun: Wendy Evans.

Torrwyd y record flaenorol am y Welsh Cake mwyaf yn Llandrindod yn 2014 a oedd yn pwyso 26kg.  Ar ddiwedd y prynhawn yng Nghaerfyrddin cofnodwyd pwysau o 28.8kg a nodwyd yn swyddogol bod record byd newydd wedi ei thorri.

Tipyn o gamp yn wir.  Llongyfarchiadau i bawb a gyfrannodd at dorri’r record ac yn enwedig i Kevin a Dafydd a brofodd grefftwaith lleol ar lwyfan byd.

Gellir gwylio ychydig o’r digwyddiad mewn ffilm fer gan S4C ar sianel youtube Guinness World Records.