Llanbed a Ffliw Sbaen 1918

Aled Morgan Hughes sydd yn olrhain hanes Ffliw Sbaen a’i effaith ar Lanbedr Pont Steffan.

Aled Morgan Hughes
gan Aled Morgan Hughes

Aled Morgan Hughes sydd wedi bod wrthi’n olrhain effaith Ffliw Sbaen ar Geredigion, ac yn benodol yn yr achos yma effaith yr haint ar dref Llanbedr Pont Steffan.

Gwta ganrif yn ôl wynebodd y Byd afiechyd argyfyngus arall – Ffliw Sbaen. Lledaenodd y ffliw i bedwar ban byd; o gyflafan y Rhyfel Byd Cyntaf yn Fflandrys, i bellafoedd ynysoedd anghysbell y Cefnfor Tawel. I’r rheiny a fu dioddef o’r haint byddai’r symptomau yn aml ddigon brawychus; y croen yn tywyllu, yr ysgyfaint yn mygu ar hylifau, a marwolaeth yn aml yn dilyn o fewn diwrnod neu ddau – neu hyd yn oed oriau. Byddai dynion ifanc yn eu hugeiniau yn nodedig archolladwy i’r haint; a nifer sylweddol o filwyr ar ddwy ochr yr ymladd yn syrthio i’r “Spanish Lady.

Gan ymddangos gyntaf ar droad 1918, profwyd anterth y ffliw mewn tair prif don; gydag ail don Hydref/Tachwedd 1918 y fwyaf niweidiol. Dyma oedd y don a gafodd yr effaith fwyaf trawiadol ar gymunedau ar draws Cymru a Phrydain, ac yn ei dro, trefi megis Llanbedr Pont Steffan.

Serch y cannoedd a fu farw yn nhon gyntaf y ffliw yn ystod Pasg/Haf 1918, a’r miloedd a heintiwyd ers Medi 1918 yng nghamau cyntaf yr ail don (yn eu plith y Prif Weinidog, David Lloyd George) – prin fyddai’r sylw cyhoeddus i’r haint newydd yma cyn Tachwedd 1918. Yn hytrach, gyda’r Rhyfel Byd Cyntaf yn prysur gyrraedd penllanw, cafodd sôn am yr inffliwensa ei sensori’n llym yng ngwasg Prydain, Ffrainc a’r Almaen er mwyn osgoi panig. Gwrthgyferbynnai’r sensori hyn gyda’r sefyllfa yn Sbaen – a oedd yn niwtral yn y rhyfel, ac felly’n rhydd i adrodd am hynt a helynt y salwch – gan felly gyfrannu tuag at ei enw adnabyddus; ‘Ffliw Sbaen’.

Er amharodrwydd y wasg i adrodd hanes y ffliw yn ei ogoniant yn ystod y cyfnod hwn, yn gynyddol erbyn mis Hydref 1918 gweler adroddiadau niferus yn dechrau ymddangos yn y papurau newydd lleol am farwolaethau milwyr dramor o inffliwensa neu niwmonia. Yn achos Llanbedr Pont Steffan, daw’r cofnod cyntaf o fath golled yn rhifyn Hydref 25ain 1918 o’r Cambrian News, gyda marwolaeth Miss Ella Richards – nyrs 31 oed a fu farw o niwmonia yn Salonica (Macedonia), ar Ffrynt dwyreiniol y rhyfel.

Ceir y crebwyll cyntaf i Ffliw Sbaen yng Ngheredigion yn rhifyn Tachwedd 1af, 1918 o’r Cambrian News – gan nodi fod “rapid advance” o’r haint wedi ei brofi mewn amryw o ardaloedd o’r sir. Gyfochr a’r datganiad yn rhybuddio am ledaeniad y ffliw, cafwyd hefyd adroddiad manwl gan Dr L. Meredith Davies (prif swyddog meddygol y sir) a chynigai fewnwelediad diddorol i’r camau y dylai trigolion eu dilyn mewn ymateb i’r haint:

“On first suspecting influenza the best advice is ‘keep warm; go to bed and stay there.’ Take an aperient e.g. Calomel, 1.2 grains at night, followed by Epsom salts in the morning. Call in a doctor. Ammoniated quinine is good, also a glass of hot lemon water at night while in bed. Gargle the throat with a diluted disinfectant. Plenty of fresh air is good, but avoid draughts.

People who are used to alcohol should be especially careful of not getting a chill. People suffering from influenza should remember that they are infectious and may give it to others.

Do not expectorate in public. Infected handkerchiefs, after use, should be well boiled or soaked in carbolic or burnt. Isolation – A person with influenza should occupy a room apart from the rest of the household. Do not go to work or go to school if influenza is suspected.”

Mae’n amlwg o gofnodion y cyfnod i’r ffliw daro tref Llanbedr Pont Steffan yn ystod yr ail don hon ddiwedd Hydref 1918, gydag erthygl o’r un rhifyn yn nodi “There are several cases at Lampeter, almost every street being infected”.

Yn ddiddorol iawn, noda’r un adroddiad – “the epidemic is confined mostly to children” – gyda’r farwolaeth gyntaf o’r haint yn y dref yn cael ei phrofi ar Ddydd Llun 28ain o Hydref 1918 – merch Mr Morgan Richards, a oedd ond yn 13 mlwydd oed. Nodwyd iddi fynychu’r ysgol leol yn holliach ar y dydd Gwener cyn ei marwolaeth.

Wythnos yn unig wedi marwolaeth Miss Richards, gwelwn hefyd farwolaeth sydyn un o drigolion ifanc eraill y dref o’r ffliw; sef Johnny Davies, Brondeifi House – ac yntau hefyd ond yn 13 mlwydd oed. Nodwyd yn y Cambrian News – “He was taken ill on Wednesday and succumbed to double pneumonia on Friday night”.

Yn achos Miss Richards a Johnny Davies ddaeth eu hoedran ifanc a’u marwolaeth hynod sydyn o’r haint i gymeriadu rhai o rinweddau fwyaf nodweddiadol Ffliw Sbaen – a fyddai’n creu tor-calon a chodi braw mewn cymunedau ar draws y Byd.

Nid yn unig yr ifanc fu’n dioddef o’r salwch yn y dref ychwaith. Erbyn diwedd Hydref 1918, cofnodwyd ambell farwolaeth arall yn y lleol, yn ogystal â nifer o achosion o’r ffliw ymysg poblogaeth carcharorion rhyfel Almaeneg a oedd wedi eu sefydlu yn y dref – “GERMAN PRISONERS ILL AT LAMPETER” ebychai un erthygl o’r Cambrian News.

Mae’n rhaid cofio roedd Llanbedr Pont Steffan yn 1918 yn le gwahanol iawn i’r presennol – gan felly gymeriadau ymateb gwahanol (ond eto tebyg) i’r argyfwng presennol. Gyda’r cyd-destun o ryfel gwaedlyd, ynghyd ac absenoldeb gwasanaeth iechyd cenedlaethol – a hyd yn oed prinder adran iechyd penodedig yn y Llywodraeth – prif gyfrifoldeb yr awdurdodau lleol oedd hi i weithredu’n briodol er mwyn mynd i’r afael â her y ffliw.

Yn benodol, caewyd holl ysgolion y sir (penderfyniad a fyddai’n parhau tan Ionawr 1919), ac aethpwyd ati i ohirio amryw o ddigwyddiadau o bwys – gan gynnwys noson o “dramatic entertainment” yn Neuadd Victoria ar Nos Fercher 30ain o Hydref 1918. Mae’n ymddangos na fu i’r dref ganlyn trywydd rhai trefi cyfagos gan beidio gwahardd rhai gwasanaethau crefyddol – fel y bu’r drefn yn Aberystwyth.

Un o nodweddion amlycaf lledaeniad yr inffliwensa yn y dref ddiwedd mis Hydref/dechrau Tachwedd oedd anallu’r drefn feddygol leol i ymdopi â’r lledaeniad. Nodwyd yn rhifyn Carmarthen Journal fis Tachwedd 1918:

The influenza is still spreading and we regret to state that Dr Rowlands, Dr Griffiths, Dr Evans and Dr Bankes-Price, Dolau are suffering from its grip, so that there is only one medical gentleman in the borough, viz. Dr Clunglas Davies, medical officer of health, to attend the numerous patients

Pwysig yw nodi, nid ffenomena unigryw i Lambed oedd y gyfradd uchel o’r doctoriaid a fu ddioddef o’r ffliw ychwaith – gydag adroddiadau niferus am ardaloedd ar draws Prydain a’r Byd yn nodi’r straen sylweddol wynebodd doctoriaid a nyrsys wrth geisio trin yr haint. Rhoddwyd straen mwyfwy ar y ddarpariaeth iechyd lleol yn sgil prinder doctoriaid ar y ffrynt cartref yn y cyfnod – gyda nifer wedi teithio i Ffrainc i gefnogi’r ymgyrch filwrol.

Gydag anterth yr ail don farwol hon yn cael ei phrofi yn wythnosau cyntaf Tachwedd 1918, cyd-darodd â chadoediad y Rhyfel Byd Cyntaf ar Dachwedd 11eg 1918. Croesawyd y cadoediad gyda rhyddhad a dathliadau mewn cymunedau ar draws Prydain – gan gynnwys Llanbedr Pont Steffan; noda’r Camarthen Journal:

Lampeter rose to the occasion when the news of Germany’s complete surrender reached the town on Monday. Enthusiastic crowds gathered in the streets, bunting was displayed, and in the evening the enthusiasm reached its climax, when houses were lighted, patriotic choruses sung, and a grand display of fireworks. The students of St David’s College, several of whom had been in the fighting line, addressed the crowds and the burning in Harfod-square of the Kaiser’s effigy finished a grand display. Wednesday was declared a general holiday.”

Serch y dathlu, parhaodd y ffliw i daflu cysgod dros y dref a’i thrigolion. Adlewyrchwyd hyn yng nghyfarfod y Cyngor Tref yr 11eg o Dachwedd – ychydig oriau wedi’r cadoediad. Eitem gyntaf y cyfarfod fyddai i gytuno i anfon telegram o longyfarch i Lloyd George (a llythyr tebyg i Arlywydd Ffrainc a’r UDA), ond o fewn dim hoeliwyd sylw’r cyfarfod ar fygythiad Ffliw Sbaen. Nodwyd yn y Cambrian News:

 “Alderman Walter Davies proposed that a disinfectant should be put in the watering cart for the purpose of preventing the spread of epidemics – the proposition was seconded by Councillor D F Lloyd and carried.

Ar lawr gwlad, serch y dathliadau, yn ôl rhifyn 22ain o Dachwedd 1918 o’r Cambrian News, parhau i ledu y bu’r haint yn y dref –

The influenza epidemic shows no signs of abating, but no deaths have occurred lately. Amongst the victims are the Revs Wesley Morgan, Oswald Williams and Ll Davies Siloh; and Mr H. Rees, OBE, Liberal agent.

Mewn amryw o drefi ar draws Prydain a’r Byd, bu i iwfforia’r cadoediad a’r dathliadau ddilynodd arwain tuag at ledaeniad pellach o’r ffliw erbyn diwedd fis Tachwedd 1918. Fodd bynnag, yn achos Llanbedr Pont Steffan, mae’n ymddangos erbyn diwedd ‘Black November’ 1918 y bu i anterth y ffliw ddirywio’n sylweddol yn y dref – gyda gwaith y Cyngor Tref yn cael ei ganmol wrth fynd i’r afael â’r haint. Noda’r Carmarthen Journal:

It is satisfactory to find that the influenza scourge is abating, and that no new cases have been reported the last few days. The use of disinfectants in public buildings and private houses has been freely indulged, and everything possibly to prevent its spreading”.

Mae’n ddiddorol nodi y bu i’r dirywiad yma yn y ffliw yn Llanbedr Pont Steffan wrthgyferbynnu gydag ardaloedd eraill cyfagos o’r sir – gyda’r inffliwensa yn parhau i daflu ei gysgod dros amryw o gymunedau gychwyn fis Rhagfyr 1918. Mae’n ymddangos fod ei afael yn benodol amlwg yn ardal Tregaron a Llanddewi Brefi, gyda rhifyn 29ain o Dachwedd 1918 y Cambrian News yn nodi:

“Tregaron Guardians met on Tuesday, Mr D J Williams, chairman, presiding. The Chairman drew attention to the spread of influenza at Llanddewi Brefi and Tregaron. In some houses at Llanddewi as many as ten and eleven persons and whole families were laid up, and on Monday morning as many as four persons in the district had died.”

Dr Lloyd, Tregaron, was being called out day and night and there was a danger of his health breaking down. Dr Davies, Bitch Hill was home on leave from the army and he suggested that representations be made to the Local Government Board and the army authorities to allow him to remain fro at least a month to release Dr Lloyd. That was agreed to.”

Atgyfnerthwyd dirywiad y ffliw yn y dref erbyn diwedd Tachwedd 1918 gydag erthygl yn y Carmarthen Journal yn ceisio gwrthbrofi honiadau o ‘Smallpox’ yn y dref – noda’r erthygl:

 “It is we hear, persistently that there is a case of small pox In Lampeter, and we are authorised by the Health Department to most emphatically deny each rumour. There is no case of infectious disease of a notifiable character in the town, nor has there been any for some three or four months, and then only scarlet fever. The same rumour should not be believed. Lampeter is a health town with a good water supply, sufficiency of proper sanitary water closets and good sewerage, and anyone wishing can visit Lampter without fear”.

Mae’r cyfeiriad hyn tuag at afiechydon megis Smallpox a Scarlet Fever yn ddiddorol – ac yn awgrymu mae nid newydd oedd heintiau megis Ffliw Sbaen i gymdeithas y cyfnod, ond yn hytrach fod ymweliadau math salwch yn ffenomena gymharol gyfarwydd yn y dref a chymdeithas y cyfnod.

Yn sicr erbyn dechrau mis Rhagfyr 1918 gwelwn o bapurau newydd y cyfnod bod crebwyll i achosion a marwolaethau o’r ffliw yn nhref Llanbedr Pont Steffan wedi gostwng yn sylweddol. Serch hynny, rydym yn parhau i weld ei effaith ar y dref a’i chymuned – gyda marwolaeth Richard Morgan, morwr ifanc o’r dref. Yn debyg iawn i’r nyrs Ella Richard, gadawodd Richard Morgan y dref i gefnogi’r ymgyrch filwrol, ond ni fu fyth ddychwelyd – gan yn hytrach syrthio i’r ffliw.  Noda rifyn y Carmarthen Journal o 29ain o Dachwedd 1918 –

It is with sincere regret we chronicle the death of Mr Richard (Dicky) Morgan, the only son of Lieut Morgan and Mrs Morgan, Fountain Inn, Lampeter which occurred in Cork Hospital on Tuesday. Mrs Morgan received a wire the previous day to the effect that her son was seriously ill with influenza and pneumonia, and she and her younger daughter went at once to Cork, but was dead before their arrival. Young Morgan, although only 19 years old was a mate in the Royal Navy, an if he had lived a bright career awaited him”.

Bu’r llynges yn nodedig o archolladwy i’r haint, gyda bron 40% o forwyr yn llynges yr Unol Daleithiau yn dal yr haint ym misoedd olaf y Rhyfel Byd Cyntaf.

Bu farw dros 10,000 o bobl ar draws Cymru o Ffliw Sbaen – ac mae’n amlwg o’r adroddiadau uchod na fu i dref Llanbedr Pont Steffan ddianc yn llwyr o ddicter yr haint. O adroddiadau papur newydd y cyfnod, gwelwn y cafodd Ffliw Sbaen effaith ar agweddau amrywiol o fywyd y dref – gan gynnwys cau ysgolion, gosod pwysau ar ddarpariaeth iechyd lleol, ac ambell farwolaeth drasig . Daeth amryw o’r nodweddion hyn yn nodweddiadol o’r haint a’i heffaith ac etifedd ar gymunedau ledled y Byd.

Fodd bynnag, wrth ystyried erchylltra rhyngwladol y ffliw yn ystod misoedd olaf 1918, er taflu cysgod dros y dref a’i thrigolion, ar y cyfan mae’n ymddangos y llwyddodd Llanbedr Pont Steffan i osgoi’r gwaethaf o’r haint hon – ac yn sicr ni ddioddefodd y dref cyn waethed ac amryw o gymunedau eraill ar draws Ceredigion a Chymru.

 

Gyda chydnabyddiaeth i Papurau Newydd Cymru am y ffynonellau.