Mae CFfI Pontsiân wedi cael cryn lwyddiant yn ddiweddar wedi iddyn nhw ennill cystadleuaeth y Ddrama Gymraeg nid yn unig ar lefel Ceredigion, ond ar lefel Cymru hefyd.
Cynhaliwyd Gŵyl Adloniant CFfI Cymru yn y Galeri, Caernarfon y penwythnos diwethaf (Chwefror 29 + Mawrth 1), gyda chwe ffederasiwn yn cystadlu yn y gystadleuaeth Gymraeg.
Roedd CFfI Pontsiân yn perfformio’r ddrama gomedi ‘Oli’, a sgrifennwyd gan dri aelod o’r clwb, sef Carwyn Blayney, Cennydd Jones ac Endaf Griffiths, a rhoddwyd canmoliaeth uchel i’r tri am safon eu sgript gan y beirniad – yr actores a chyflwynwraig, Ffion Dafis. Llwyddodd Glesni Thomas i ennill gwobr yr Actores Orau ar lefel Ceredigion ac Endaf Griffiths yr Actor Gorau ar lefel Ceredigion a Chymru.
Y cynhyrchwyr oedd Gareth Lloyd, Einir Ryder, Mererid Jones a Lisa Mai. Adeiladwyr a chludwyr y set oedd Dion Evans, Geraint Blayney, Llyr Rees, Sion Jenkins a Meurig Evans.
Dyma fideo byr yn crynhoi taith CFfI Pontsiân i Gaernarfon…