Llwyddiant mawr helfa drysor pentref Silian

Mae ein prosiect parhaus wedi tynnu sylw at yr angen i’n cymuned allu dod at ei gilydd yn rheolaidd.

gan Nikki Vousden

Beryl Williams a’r wyron yn chwilio cliwiau.

Ddydd Mawrth 28ain Gorffennaf cynhaliwyd helfa drysor pentref Silian gan ymbellhau cymdeithasol er budd Grŵp Garddio Cymunedol Silian.

Wedi’i threfnu gan Margaret a Kelly Thomas, roedd y digwyddiad awyr agored hwn yn gyfle gwych i bobl ddod at ei gilydd eto ar ôl misoedd o gloi mawr, gan alluogi ymbellhau cymdeithasol.

Cerddodd 22 tîm, pob un o dri pherson neu lai, o amgylch y pentref yn dilyn cyfres o gliwiau i gwblhau eu taflen atebion. Cafwyd llawer o hwyl gan yr hen a’r ifanc fel ei gilydd, dim ond 3 mis oedd y cyfranogwr ieuengaf a’r hynaf yn 91 mlynedd oed!

Yr enillwyr, gyda’r atebion mwyaf cywir, oedd Lorraine Dixon, Laura Sherman a Hannah Wilson o Dregaron, a roddodd y wobr ariannol o £10 yn ôl i’r gymuned. Cafwyd raffl hefyd, a chodwyd cyfanswm o £161.

Dywedodd Nikki Vousden o Fenter Silian: ‘’Mae ein prosiect parhaus i drawsnewid eglwys segur y pentref yn ganolbwynt cymunedol wedi tynnu sylw at yr angen i’n cymuned allu dod at ei gilydd yn rheolaidd.”

“Nid oes gennym unrhyw fan cyfarfod ar hyn o bryd, felly y llynedd fe wnaethom ddechrau grŵp garddio pentref, ac yn ddiweddar cafodd un o’n haelodau y syniad o helfa drysor fel ffordd o ddod â’r gymuned ynghyd ar ôl treulio cyhyd yn hynan ynysu. Diolch enfawr i’r trefnwyr ac i bawb a gymerodd ran ac a wnaeth y digwyddiad mor fywiog a difyr!’’