Heddiw cynhaliwyd Marchnad Da Stôr lwyddiannus iawn ym Mart Llanybydder gan gwmni Evans Bros dan reolau cadw pellter cymdeithasol unwaith eto.
Cafwyd munud o dawelwch cyn dechrau gwerthu heddiw er parch i Oriel Jones, Lladd-dy Llanybydder gynt a fu farw’n ddiweddar. Bu’n gefnogol iawn i Fart Llanybydder dros y blynyddoedd.
Aeth 400 o dda drwy’r cylch gwerthu heddiw gyda’r perchnogion yn gadael eu gwartheg yn y mart a mynd adref, tra’r oedd nifer dda o brynwyr yn bresennol ac yn cadw pellter o ddau fedr oddi wrth ei gilydd. Braf croesawu prynwyr newydd unwaith eto gyda rhai wedi dod mor bell â Gwlad yr Haf a Swydd Efrog. Darlledwyd yr arwerthiant yn fyw ar facebook er mwyn i werthwyr gadw llygaid ar y prisau.
Cafwyd masnach arbennig o dda heddiw gyda’r prisau yn cyrraedd ar gyfartaledd rhyw gant punt yn uwch na’r disgwyl. Aeth y prisau uchaf o ran y treisiedi i Davies, Plasnewydd, Allwalis, yr eidonau i Bowen, Pwllglas, Llanllwni, buchod hesbion i Evans, Nantyboncath, Alltwalis ac o ran buwch a llo i Evans, Blaenffynnon, Bryngwyn.
Dymuna cwmni Evans Bros ddiolch i bawb am gefnogi’r Mart heddiw eto ac am gadw at y mesurau llym. Y bwriad yw cynnal marchnad arall ar y 13eg o Fehefin a gofynnir i bawb gofrestru’n gynnar.