Does dim dwywaith bod costiau byw yn cynyddu ac wrth inni agosáu at ddiwedd blwyddyn heriol tu hwnt mae nifer fawr ohonom yn gweld yr arian sydd gennym i wario ar fwyd yn dynnach nag erioed.
Mae’r sefyllfa hon hyd yn oed yn fwy o broblem i’r rhai mwyaf bregus o fewn ein cymunedau. Mae’r rhain yn cynnwys pobl hŷn, pobl ag anabledd neu deuluoedd â phlant ifanc, heb anghofio’r hunan-gyflogedig a’r sawl sydd wedi colli swyddi neu wedi lleihau oriau gwaith yn heb ddewis yn dilyn y pandemig.
Mae anawsterau o gwmpas sicrhau bwyd iach, fforddiadwy yn cael ei gymhlethu i lawer sy’n byw mewn ardaloedd gwledig. Yn aml iawn maent yn dibynnu ar gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus gwael neu gostau tanwydd uwch na’r cyffredin – a dyna sy wrth wraidd sefydlu’r prosiect Y Fasged Siopa. Deilliodd y syniad o bryderon a fynegwyd ymhlith teuluoedd sy’n gweithio yng nghefn gwlad Sir Gaerfyrddin oedd yn ei chael hi’n anodd talu costau bwyd bob dydd sylfaenol.
Nid banc bwyd ydym ni – ry’n ni’n cynnig cynllun aelodaeth y gall eich cartref ymuno ag e am £1 y flwyddyn a chael gafael ar fwyd fforddiadwy, ffres a maethlon. Gan gydweithio â Chlybiau Ffermwyr Ifanc Cymru, Fareshare & Incredible Edibles Sir Gâr, yn ogystal â chymunedau, cynghorau a busnesau lleol, mae’r Fasged Siopa yn brosiect a ariennir gan y Loteri a fydd yn cefnogi preswylwyr yng Ngogledd Ddwyrain Sir Gâr, gan gynnwys trigolion sy’n byw yng nghanol neu o gwmpas Llanybydder, Llanymddyfri, Llangadog, Cilycwm a Chynnwyl Gaeo.
Gall aelodau ddewis bocs bwyd sylfaenol neu faint teulu yn wythnosol. Am £3.50 yr wythnos byddwn yn darparu bocs sylfaenol gydag amrywiaeth o fwydydd ffres neu i’r cwpwrdd. Am £5.00 yr wythnos byddwn yn darparu bocs mawr. Ni allwn warantu beth fydd ymhob bocs, ond bydd y pwyslais ar gynnyrch ffres.
Nid oes angen atgyfeiriad arnoch. Mae nifer o bobl yn pryderi nad ydynt yn gymmwys ond mae’r cynllun ar gyfer pawb sy’n byw yn yr ardaloedd gweldig yma sy’n cael hi’n anodd ar hyn o bryd. Cysylltwch am sgwrs hollol anffurfiol.
Ar hyn o bryd rydym yn rhedeg gwasanaeth dosbarthu bwyd yn unig. Edrychwch allan am ein gyrrwr Wyn yn teithio o gwmpas eich ardal yn ein fan. Mae gan Wyn wen i bawb wrth iddo gludo’ch bocsys i’ch drysau. Gobeithiwn, bydd hyn, yn ei dro, yn gatalydd ar gyfer sefydlu hybiau bwyd a arweinir gan y gymuned, lle bydd ystod o wasanaethau ychwanegol gyda’r nod o leihau tlodi bwyd yn cael eu datblygu. Mae’r rhain yn cynnwys cynlluniau garddio cymunedol, cyngor ar fwyta’n iach, swmp-brynu a chynlluniau bwyta cymunedol. Bydd pob un ohonynt yn harneisio sgiliau sy’n bresennol yn y gymuned leol.
Wrth gwrs, i sicrhau llwyddiant mae angen cefnogaeth y gymuned a digon o ddirddordeb felly os ydych am ymuno â Chlwb y Fasged Siopa neu am fwy o wybodaeth yna cysylltwch gyda ni’n fuan. Rydym yn fwy na pharod i sgwrsio. Ffoniwch Ceinwen ar 07958 649932.