Recordio hanes Tîm Pêl-droed Dynamo Cwmann

Nofel Gary Slaymaker ‘Y Sach Winwns’ ar gael fel Llyfr Llafar i roi gwên ar wyneb cyn diwedd yr haf.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Bu Gary Slaymaker mewn stiwdio yn ddiweddar yn recordio fersiwn audio-book o’i nofel ‘Y Sach Winwns’.

Mae’n bymtheg blynedd ers cyhoeddi’r nofel, a’r gobaith yw y bydd ar gael cyn hir fel llyfr llafar gyda’r awdur ei hunan yn ei darllen.

Esbonia Gary “Felly, fues i a’n dyn sain ni, Dan Lawrence, yn ei stiwdio e yn Nhyllgoed, Caerdydd, wythnos ddiwetha, am bedwar bore, yn gwneud sesiynau o rhyw bedair awr a hanner yr un i recordio’r Sach Winwns.  Diolch byth ath hi’n weddol esmwyth ar y cyfan…ond Dan odd â’r gwaith caled o olygu’n stwmblan a rhegi i mâs o’r recordiad a neud iddi swno’n deidi.”

“Wy ‘di newid ambell i linell i neud e swno mwy fel stori’n câl ei hadrodd na llyfyr yn câl ei ddarllen, a ma na bach fwy o regi tro hyn.  A ma na gag newydd sbon reit ar y dachre hefyd….wedyn alle ti weud ma’r “directors cut” o’r Sach Winwns sydd gyda ni nawr.”

Dyma ddetholiad o Adolygiad a ysgrifennais ac ymddangosodd ym Mhapur Bro Clonc ym mis Tachwedd 2005.

Dyma nofel fywiog yn llawn hiwmor gydag apêl eang iddi. Roeddwn eisiau darganfod pwy oedd y bobl leol tu ôl i gymeriadau’r nofel a faint o debygrwydd oedd rhwng Cwmann y nofel a Chwmann y pentref go iawn yr ydym ni yn byw ynddo.

Defnyddir enwau lleoedd sy’n adnabyddus i ni fel: Tafarn y Ram (sy’n ganolbwynt i nifer fawr o gyfarfodydd a gwrthdaro), Cae Coedmor, afon Hathren, siop fwyd Sineaidd Llambed a thîm pêl-droed Ffarmers, Cribyn a Llanwenog. Maen nhw’n llefydd y gallwn ni eu gweld yn glir yn ein meddyliau wrth ddarllen y nofel. Ond eto ceir tipyn o ddychymyg hefyd wrth sôn am Siop Drydan y pentref (a roddodd enw’r Dynamo i’r tîm) a nifer o ffermydd gwreiddiol.

Gallaf adnabod ambell un o drigolion yr ardal hon yn y cymeriadau, ond dim ond ambell un. Dywed Gary ei fod wedi selio’r cymeriadau ar bobl y mae’n eu hadnabod ond, i fi, mae llawer o Gary Slaymaker ei hun yn y rhan fwyaf o’r cymeriadau. Gallaf ei glywed e yn yngan y perlau a ddaw allan o enau nifer fawr o gymeriadau’r nofel – y geiriau bachog, y tynnu coes ac wrth gwrs y rhegi.

Ond yn fwy na’r rhegi, ysgrifenna Gary yn nhafodiaith hyfryd yr ardal. Mae’r cyfan a ddywedir gan y cymeriadau mor fyw ac mor real i mi. Chewch chi ddim nofel mwy addas i ni, bobl Cwmann a Llambed, na Y Sach Winwns.

Mae’r stori yn cydio ynoch. Byddwch yn cydymdeimlo a chymeriadau’r nofel yn gwmws fel pe byddech yn cydymdeimlo â thrigolion eich pentref chi. Bydd un bennod yn arwain at y llall. Does dim themâu trwm ynddi na gormod i wneud i chi feddwl, dim ond adloniant pur a llond tŷ bach (yn dibynnu ar ble fyddwch yn darllen fel arfer) o chwerthin.

Efallai ei fod wedi ymestyn y stori braidd mewn mannau. A fyddai rhywun mewn pentref gwledig fel Cwmann wedi mynd mor bell i gyflogi Witch Doctor?

Yn ystod y darlleniad, bûm i’n chwerthin ar dop fy llais gan feddwl fy mod ar Gae Coedmor a Thafarn y Ram gyda nhw. Daeth deigryn i fy llygaid, yn ogystal â gwên i fy wyneb, wrth ddarllen am yr angladd yng Nghapel ‘Bethania ar dopiau Cwmann’ hefyd.

Prysured y dydd pan fydd Gary Slaymaker yn cyhoeddi ail nofel am anturiaethau’r Dynamo. Rwy’n siwr fod digon o ddeunydd yn y cymeriadau eto i lanw nofel arall.

Sut brofiad oedd ail ymweld â’r nofel wedi’r holl flynyddoedd? “Fuodd rhaid i fi ddarllen y llyfyr ‘to, cwpwl o weithie, jyst i gyfarwyddo da’r stori a’r deialog, cyn mynd i’r stiwdio; a’r peth darodd fi odd bod hi dal yn gweitho’n lled dda fel stori.  Ma’r cymeriadau dros ben llestri, ond oherwydd natur ddwl y stori, odd hwna’n neud sens hefyd.”

“Hales i fwy o amser yn ffindo’r lleisiau i’r cymeriadau, nag unrhyw beth arall, ond wy’n credu bo nhw’n gweitho.  Yr unig bryd o ni’n ffindo’n hunan yn mynd ar goll, odd pan odd da fi ddarn gyda sawl cymeriad yn siarad ar draws ei gilydd. Odd hi’n anodd cadw trac ar yr acenion ar adegau, ond ddethon ni i ben gyda hi.”

Ydy’r nofel dal yn berthnasol heddiw?  “Ma na bymtheg blynedd wedi mynd heibo ers i’r Sach Winwns gweld golau dydd, wedyn wy’n gobeitho fydd na genhedlaeth newydd yn hapus i glywed hi.  Yn amlwg ma na le iddi, a mewn cyfnod tywyll fel hyn, falle bod hi’n “ideal” i rhoi gwên ar wyneb am gwpwl o oriau.”

“Croesi bysedd, fydd hi’n barod i fynd erbyn diwedd y mis; ond wy’n benderfynol o gâl hi mewn i glustie bobol cyn diwedd yr haf.”