Sioe Ddigidol C.Ff.I. Llanllwni 2020

Canlyniadau’r sioe arbennig a gynhaliwyd ar Ddydd Llun Gŵyl y Banc.

gan Cffillanllwni

Wel, bu ddydd Llun Gŵyl y Banc yn un go wahanol yn Llanllwni eleni heb y Sioe flynyddol yn cael ei chynnal yn y pentref. Ond serch hyn, fe gynhalion ni Sioe Ddigidol am y tro cyntaf erioed o dan yr amgylchiadau presennol – a hynny’n un lwyddiannus dros ben.

Diolch i bawb fu wrthi’n cystadlu, roedd y safon heb ei hail eleni gyda llwyth o bobl wedi cystadlu ym mhob adran. Diolch yn fawr hefyd i’r beirniaid fu wrthi’n crafu pen i ddyfarnu’r gwobrau, ac i’r unigolion fu wrthi’n stiwardio bob adran.

Yn bennaf oll, diolch i Sara Thomas ein hysgrifenyddes am roi’r cyfan at ei gilydd i safon arbennig, i sicrhau bod y canlyniadau’n cael eu cyhoeddi mewn da bryd.

Ewch draw i’n tudalen Facebook i weld y canlyniadau yn eu cyfanrwydd, ond dyma nhw i chi :

Adran y Defaid   

Tywysydd Ifanc 12 mlwydd oed neu iau

1af- Madi Harris, 2il – Elliw Jones, =3ydd – Cian Jones ac Efa Evans.

Pen Gorau

1af – Anwen Jones, 2il –Cian Jones, 3ydd – Chloe Davies.

Adran y Gwartheg

Tywysydd Ifanc 12 mlwydd oed neu lai 

1af – Evan Williams

Gwartheg Godro – Buwch/Heffer mewn Llaeth

1af – Teulu Davies, Gwndwn, 2il – Teulu Powell, Gwarcwm, 3ydd – Teulu Davies, Gwndwn.

Gwartheg Biff – Heffer/Tarw/Eidon o dan 18 mis

1af – Alan ac Ann Bellamy, 2il – Teulu Lewis, Gwarcoed Einion, 3ydd – Teulu Lewis, Gwarcoed Einion.

Adran Gwn

Y Ci fyddai’r Beirniad yn hoff o gael adref

 1af – ‘Coco’ – Elliw Jones, 2il – ‘Violet’ , Elliw Jones, 3ydd – ‘Corgi’ – Nerys Thomas.

 ‘Waggiest Tail’

1af – ‘Poppy’ – Osian ac Alys Powell 2il – ‘Cel’ – Teulu Howells, Pantglas, =3ydd – ‘Roxy’ – Elliw Jones a ‘Jack Russell’ – Nerys Thomas.

Adran Hen Gerbydau

Hen Gar

1af – Jac Jones

Hen Beiriant Amaethyddol 

1af – Lleucu-Haf Thomas, 2il – Dan Davies, 3ydd – Alan Jones. 

Adran Lysiau

Llysieuyn o siap od 

1af – Gwyneth Lewis, 2il – Megan Jones, 3ydd – Gwyneth Lewis.

Adran Flodau

Trefniant o flodau mewn eitem wedi ei ailgylchu

 1af – Lleucu-Haf Thomas, 2il – Angela Evans, 3ydd – Hanna Thomas.

Planhigyn blodeuol gorau

1af – Teulu Davies, Gwndwn, 2il – Sulwen Lloyd, =3ydd Ann Bellamy ac Alan Jones.

Adran Fferm

Y tractor mwyaf disglair

1af- Angela Evans, 2il– Hanna Thomas, 3ydd – Melfyn Evans.

Yr het wedi’i wisgo fwyaf

1af – Ken Howells

Adran Goginio

Sbynj wedi’i haddurno

1af – Lleucu-Haf Thomas, 2il – Lleucu-Haf Thomas, =3ydd Catrin George a Karen Bowen.

Trasiedi Coginio

1af – Arwel Howells, 2il – Marion Howells.

Adran Grefft

Eitem allan o bren neu fetal

1af – Lewis Thomas, 2il – Hefin Jones, 3ydd – Sara Thomas.

Eitem wedi ei winio ar gyfer y cartref

1af – Jane Lloyd, 2il – Jane Lloyd, 3ydd – Sara Thomas.

Adran Ffotograffiaeth

Llun gyda chapsiwn doniol

1af – Lili Grug, 2il – Catrin Evans, 3ydd – Anwen Jones.

Llun sy’n cyfleu’r thema Haf 

1af – Hanna Thomas, 2il – Julie Joyner, 3ydd – Carwyn Williams.

Adran Plant Ysgol Gynradd

Eitem allan o rolyn papur ty bach

1af – Megan Jones, 2il – Elliw Jones, 3ydd – Tudur George.

Pitsa wedi’i addurno

1af – Betsan Jones, 2il – Lleucu-Haf Thomas, 3ydd– Megan Jones.

Adran Plant Ysgol Uwchradd ac Aelodau CFFI

Fideo TikTok

1af – Catrin Evans, = 2il – Ffion Williams ac Elan a Gwion Evans, =3ydd Elan a Gwion Evans a Ffion Williams.

Poster i ddiolch i weithwyr allweddol y wlad

1af – Mali McDonald, 2il – Ffion Williams, 3ydd – Ffion Williams