Ar Nos Sadwrn y 29ain o Chwefror yn Neuadd St. Iago, Cwmann, cynhaliwyd noson gawl blynyddol Clwb Ffermwyr Ifanc Cwmann er mwyn dathlu Dydd Gŵyl Dewi.
Ond eleni, roedd y noson ychydig yn wahanol i’r arfer oherwydd roedd yn un o ddathliadau 60 mlynedd y Clwb gyda Sioe Ffasiwn yn rhan o’r noson. MC y Sioe Ffasiwn oedd Deryc Rees o Langynnwr.
Yn ogystal â’r cawl a baratowyd gan Delyth Jones (Ffosyffin) a’r raffl fawr, cafwyd cyfle i edrych yn ôl ar rai o atgofion y Clwb yn y llyfrau lloffion a bu rhai o’r aelodau presennol yn modelu dillad cyn-aelodau’r Clwb a fu’n forwynion C.Ff.I. Sir Gaerfyrddin yn ystod y 60 mlynedd.
Y ffrogiau a fodelwyd oedd rhai Ann Lewis (Jones) morwyn 1966-67, Ann Douch (Williams) morwyn 1971-72, Delyth Jones (Rees) morwyn 1973-74, Eira Price morwyn 1984-85, Iona Reeves (Price) morwyn 1987-88, Ann Herbert (Thomas) morwyn 1992-93, Wendy Evans (Jones) morwyn 1994-95, Alwena Evans (Roberts) morwyn 1996-97, Ann Herbert (Thomas) Brenhines y Sir 1997-98 a ffrog ei chwaer Elin Jones (Thomas) morwyn y Sir yr un flwyddyn, Meinir Jones (Harries) morwyn 1998-99, Meleri Jones morwyn 2002-03, Louise Jones morwyn 2009-10, Sioned Russell morwyn 2011-12, Louise Jones Brenhines y Sir 2012-13, Carys Jones (Thomas) dirprwy-Llysgenhades y Sir 2016-17 cyn gorffen gydag aelod presennol ac is-gadeirydd y clwb, Sian Elin Williams, yn modelu ffrog ei hun pan fu’n ddirprwy-Llysgenhades 2018-19.
Cafwyd noson lwyddiannus a chyfle i bawb gymdeithasu, sgwrsio a hel atgofion gyda’i gilydd.
Oherwydd yr amgylchiadau presennol, bydd ein Cinio Dathlu yn cael ei ail-drefnu yn hwyrach yn y flwyddyn er mwyn tynnu’r dathlu at ei derfyn.
Diolch yn fawr am eich cefnogaeth eleni a dros y 60 mlynedd diwethaf ac edrychwn ymlaen at y ddegawd nesaf!