Siopa’n lleol yn ystod y Cyfnod Atal

Cadwch yn ddiogel, ond mae nifer o siopau lleol ar agor dros y pythefnos nesaf.

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Mae’r strydoedd yn dawel ar ddiwrnod cyntaf y cyfnod clo er mwyn atal y Coronafeirws yng Nghymru, ac mae yna deimlad rhyfedd yn lleol gyda rhai siopau angenrheidiol ar agor ac eraill ar gau.

Bu’n ddiwrnod prysur serch hynny i’r siopau sydd ar agor.  Cofiwch gefnogi’r siopau lleol yn ystod y cyfnod anodd hwn.  Mae pob siop wedi cyflwyno mesurau newydd er mwyn sicrhau ymbellhau cymdeithasol a chyfleusterau golchi dwylo.

Dyma ddetholiad o luniau gan Clonc360 o rai o’r siopau sydd ar agor yn ardaloedd Llanbed a Llanybydder.

Mae’r ddwy archfarchnad yn parhau ar agor yn Llanbed, ond ar gyfer nwyddau hanfodol a bwyd yn unig.

Un o siopau Llanbed sydd wedi gorfod cau yw Lan Lofft, ond dyma Angharad Williams yn dangos sut mae’r cwmni yn addasu.

Ymhlith y siopau eraill sydd wedi cau dros y cyfnod clo, mae eraill yn addasu hefyd.  Mae Town Hall Deli yn cynnig ei bwydlen lawn fel cludfwyd o ddydd Llun ymlaen ac os oes angen offer trydanol arnoch ar frys gallwch adael neges ar ffôn siop J H Roberts a’i feibion er mwyn gwneud trefniadau diogel.

Gellir casglu cinio dydd Sul hefyd o Lain y Castell ac mae Calico Kate ac Unit Three Graphics yn gallu trefnu archebion post a dros y ffôn.  Felly, cyn mynd ati i brynu ar y we yn ddifeddwl, ceisiwch gysylltu â chwmnioedd lleol yn gyntaf.