Mae’r ffordd o Lanybydder i Rydcymerau bellach wedi ailagor a hynny ar ôl bod ar gau am bum wythnos. Ar Ddydd Llun, Gorffennaf 19eg, cafodd ei chau dros dro er mwyn rhoi pont newydd ger hen Laethdy Highmead Dairies. Bu hyn yn anghyfleus i lawer a’r dargyfeirio’n golygu milltiroedd ychwanegol o deithio. Gwyddai nifer wrth gwrs y gallent ddefnyddio heol fach garegog, ‘Stoney Lane,’ ac wrth i’r wythnosau fynd yn eu blaen, daeth mwy a mwy o bobl i wybod amdani. Cyn i’r tai ym Mro Einon gael eu hadeiladu, heol fferm oedd hon a phrin iawn tan yn ddiweddar y gwelwyd unrhyw un yn teithio arni. Ond, yn ystod y bum wythnos ddiwethaf, mae’n stori wahanol a’r heol fach wedi bod yn brysur dros ben.
Mae cau’r heol wedi bod yn rhwystredig iawn i nifer ond i eraill beth bynnag, mae wedi bod yn gyfle gwych i gymdeithasu! Mae gweld pobl yn dod at ei gilydd i glebran ger y bont yn ddarlun cyfarwydd iawn yn ddiweddar a’r pentrefwyr wrth eu bodd yn hel atgofion a rhannu ambell stori ddifyr! Cwmni Contractio A.Williams sydd wedi bod yn gyfrifol am y gwaith Cynnal a Chadw ar hyd yr wythnosau a hoffwn gymryd y cyfle hwn felly i ddiolch o galon iddynt am eu gwaith trylwyr a diflino. Mae goleuadau traffig ar y ffordd ar hyn o bryd gan nad yw’r gwaith wedi ei gwblhau eto. Ond mae’r ffaith bod yr heol ar agor yn newyddion da i bawb!