Mae Fferyllfa Adrian Thomas, Llambed yn cynnig gwasanaeth newydd mewn cydweithrediad â 1st Lampeter Rainbows i ailgylchu pecynnau pothell meddyginiaeth. Mae’r cynllun yn cael ei redeg gan gwmni Terracycle efo cwmnioedd Bucsopan a Dulcolax.
Ewch â’ch pecynnau heb y bocsys i’r fferyllfa a’u gosod yn y blwch. Fe fydd y pecynnau yn mynd at Beverley Hopkins (Lampeter Rainbows) i’w postio i Terracycle cyn iddyn nhw gael eu hailgylchu.
Ewch i wefan terracycle yma i gael mwy o wybodaeth am y broses.
Mae Llambed yn dref ddi-blastig ac mae prosiectau fel hwn yn helpu cadw gwastraff rhag mynd i safleoedd tir-lenwi ac yn well i’r amgylchedd.
Mi fydd 1st Lampeter Rainbows yn cael ychydig o arian nôl i’w ddefnyddio ar fathodynnau a gweithgareddau i’r grŵp. Mae’r grŵp wedi bod yn ddi-blastig ers 2019.
Ers Covid-19 mae 1st Lampeter Rainbows wedi bod yn cwrdd ar zoom gyda’r grŵp o 12 o ferched yn gwneud pob math o weithgareddau a chael llawer o hwyl.