Dydd Sul diwethaf ar y 10fed o Hydref, beiciodd 500 o bobl 50 milltir o Ganolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd i Ysbyty Singleton yn Abertawe. Yn cynrychioli ardal Llambed ar y daith roedd Dai, Jac a Delyth Evans o Silian sy’n aelodau o Glwb Seiclo Sarn Helen, Llambed.
Mewn partneriaeth â Chanolfan Ganser Felindre a Chanolfan Ganser De Orllewin Cymru, trefnwyd y daith gan Gadeirydd Felindre a seren y byd rygbi, Jonathan Davies OBE.
Pwrpas yr her oedd codi arian at driniaeth arbenigol a gofal i gleifion canser mewn ysbytai yn Ne Cymru, ac mae’r holl elw o’r digwyddiad yn cael ei rannu’n gyfartal rhwng Canolfan Ganser Felindre a Chanolfan Ganser De Orllewin Cymru.
Erbyn hyn mae’r cyfanswm bron iawn a chyrraedd £100,000, wrth i’r swm ar y dudalen Just Giving ddangos bod £98,918 wedi’i godi.
Yn siarad am yr her, dywedodd Jonathon Davies,
“Ar ôl bod yn gysylltiedig â chodi arian ar gyfer Canolfan Ganser Felindre ers dros 14 mlynedd, rwy’n hynod angerddol am ofal canser yn Ne Cymru.
Rwy’n gyffrous i gefnogi’r fenter newydd sbon hon a fydd yn cefnogi cleifion canser a’u teuluoedd ledled De Cymru.
Mae digwyddiadau fel hyn mor bwysig i Felindre a Chanolfan Ganser De Orllewin Cymru, gan eu bod yn caniatáu i ni ddarparu ystod eang o wasanaethau ac offer na fyddai yn bosibl fel arall.”
Dechreuodd y beicwyr cyntaf ar eu taith am 8 y bore gyda’r gweddill yn dechrau’n raddol dros y 45 munud nesaf. Am 1:30yp caeodd yr heddlu y ffyrdd yng nghanol dinas Abertawe er mwyn caniatáu’r 500 o feicwyr i ffurfio peloton mawr a gorffen y daith gyda’i gilydd drwy seiclo trwy Ysbyty Singleton.