Beth am fentro i Allt goch?

Y diweddaraf yng nghyfres ‘Taith Gerdded yr Wythnos’ Cyngor Sir Ceredigion

gan Llinos Jones
Beth am fentro i Alltgoch?

Taith Gerdded Alltgoch

Dyma’r diweddaraf yng nghyfres Taith Gerdded yr Wythnos Cyngor Sir Ceredigion

Mae hon yn daith o 9.5 km/ 5.8 milltir gan ddechrau o Lanbedr Pont Steffan.

Mae’r daith yma sy’n addas ar gyfer cerddwyr, beicwyr a cheffylau yn cynnig golygfeydd godidog o’r wlad, goetiroedd, lonydd deiliog a thir ffermio. Mae yna nifer o olion o Oes yr Haearn ar hyd y daith gan gynnwys Castell Allt Goch a Chastell Goetre, mae’r rhain yn tarddu o’r drydedd neu’r ail ganrif CC.

Cofiwch … 

  • Ymgyfarwyddo ag unrhyw ganllawiau cyfredol, lleol ynghylch teithio i wneud ymarfer corff.
  • Cadw pellter cymdeithasol bob amser, parchu’r amgylchedd a dilyn y Cod Cefn Gwlad.

Mae mwy o wybodaeth am gynllun ‘Taith Gerdded yr Wythnos’ ar gael ar dudalen Archwilio Ceredigion ar wefan y Cyngor.

Gallwch hefyd anfon neges e-bost i Countryside@ceredigion.gov.uk neu ffonio 01545 570881 a gofyn am gael siarad ag aelod o’r tîm Arfordir a Chefn gwlad.

Pob hwyl ar eich taith!