Brethyn Cartref

Pwt bach o hanes ffatrïoedd gwlân Llanybydder a’r cylch. 

gan Carys Wilson

Mae’r garthen Gymreig yn hynod o boblogaidd heddiw. Fe welwch chi’r carthenni ar welyau a chadeiriau gwestai crand ac yn y cylchgronau ffasiwn. Ond tybed a oes yna garthen yn perthyn i un o hen ffatrïoedd gwlân y fro ar droed eich gwely?

Ers talwm, roedd y ffatrïoedd gwlân yn frith ar hyd afonydd y fro; Dôlbantau, Wyddil, Clyncoch, a Phendre yn Llanfihangel-ar-arth; Meadow Vale a Phont Ceiliog yn Llanllwni;  Wernant Fach yn Maesycrugiau; Rhydybont, Wernant, Craigina, Dyffryn Duar a Llanybydder Mill yn Llanybydder; Dôl-wen, Glanduar a Phencarreg yn Llanbed; Ffatri Cellan yng Nghellan; Cwmann ac Esgair Wen Uchaf ym Mhencarreg; Maes-y-felin yn Nhrefach, Maes-y-felin yn Llanwenog; Pandy yn Llanwnnen a Phenwern a Waun Penbryn yng Nghribyn.

Roedd yna hefyd ffatri wlân yng Nghwrtnewydd yn niwedd y 19eg ganrif wedi ei lleoli ar lan yr Afon Cledlyn, ar y ffordd rhwng Cwrtnewydd a Drefach ac o fewn lled cae neu ddau tu ôl i Gapel y Bryn. Roedd yna ddigon o ddŵr yn yr afon i olchi’r gwlân ac i droi’r rhod ddŵr. Ac wrth gwrs, roedd yna ddigon o ddefaid ar ffermydd a thyddynod y fro i gyflenwi’r gwlân.  Yn ôl Walter Harries (gynt o Clarence House Cwrtnewydd), defnyddiwyd pren yr hen ffatri wlân i adeiladu Caeronnen, sef y tŷ cyntaf ar y dde wedi i chi basio Capel y Bryn wrth deithio o Gwrtnewydd i Drefach.

Erbyn heddiw, mae’r carthenni a wehyddwyd yn y ffatrïoedd gwlân yma yn brin a cheir sawl rheswm am hyn. Yn gyntaf, does dim llawer o’r hen garthenni yma wedi goroesi oherwydd fod llawer ohonynt wedi eu llosgi neu eu taflu i’r bin sbwriel.

Ar droad yr 20fed ganrif, roedd arian yn brin, a chofia fy mam-gu, Martha Davies, Llain Gorsgoch, eu rhieni yn cynilo er mwyn gallu prynu carthenni newydd. Roedd y carthenni yn cael defnydd helaeth a llawer wedi mynd yn garpiog.

Hefyd, yn ystod y 1960au a’r 1970au doedd dim cymaint o alw am y carthenni gwlân gyda’r cynnydd yn y defnydd o’r “duvet” a dyfodiad y gwres canolog.

Yn ail, ni ddechreuwyd rhoi label ar y carthenni hyd at y 1950au ac o achos hynny mae’n anodd weithiau, hyd yn oed i’r arbenigwyr, i gysylltu’n gywir y carthenni â’r ffatrïoedd gwlân. Mi fyddai’r gwehydd wedi cynllunio ei batrwm unigryw ei hun ac felly mae carthenni pob ffatri wlân yn wahanol.

Mae’r ffatrïoedd gwlân yn perthyn i adeg llawer mwy hamddenol yn ein hanes pan oedd pawb yn byw ac yn gweithio yn eu milltir sgwâr a phob cymdeithas wledig yn hunan-gynhaliol.

Pan yn blentyn yn ystod y 1920au a’r 1930au, cofia Walter fel yr oedd Cwrtnewydd yn teimlo’n bell iawn oddi wrth Gorsgoch a Drefach ac anaml iawn y byddai yn gadael pentref Cwrtnewydd. Prin oedd y rhai a oedd yn berchen ar gar a doedd dim llawer o fysiau. Hyd at y 1930au, heolydd cul cerrig oedd yn y fro yn ddigon llydan i geffyl a chart i deithio arnynt. Cofia Walter yr heol o Lanybydder i Gorsgoch yn cael ei llydanu yn ystod y 1930au i’w gwneud hithau yn briffordd gyda waliau cerrig a chloddiau yn cael eu codi bob ochr iddi.

Cyn dydd y car, siopau’r stryd fawr a’r rhyngrwyd, os fyddai angen carthen neu ddillad newydd, yna mi fyddai’n rhaid cerdded neu deithio gyda cheffyl a thrap i’r ffatri wlân leol. Mi fyddai’r nwyddau hefyd yn cael eu gwerthu mewn canolfannau lleol. Doedd dim ffatri wlân yng Ngorsgoch, ond roedd carthenni a dillad gwlanen ffatri wlân Maes-y-felin, Drefach a Chilcennin yn cael eu gwerthu yn y garej yng Ngorsgoch ynghanol yr olew, y paent a’r hoelion.

Gan amlaf busnes teuluol oedd y ffatrïoedd gwlân wedi eu lleoli ar dyddyn ac mi fyddai’r teulu yn ffermio ar y cyd â’r gwehyddu. Ar y cyfan dillad a charthenni ymarferol a gynhyrchwyd yn y ffatrïoedd gwlân oherwydd doedd dim llawer o arian gan y werin leol i wario. Weithiau mi fyddai’r werin yn talu am y nwyddau gwlanen nid gydag arian ond gyda nwyddau fel menyn, llaeth a thatws. Cynhyrchwyd dillad brethyn, sanau, crysau a trowsusau gwlanen, carthenni, blancedi ac edafedd gwlân.

Yn y llun uchod, fe welwch chi garthen a wehyddwyd yn ffatri wlân Maes-y-felin, Drefach. Dyma garthen syml ac ymarferol ond sydd o ansawdd gwych wedi ei wehyddu a llaw gan ddefnyddio gwlân brown a hufen (efallai o ddefaid Jacob). Carthen ar gyfer gwely dwbl yw hon. Yr hyn sy’n ddiddorol yw bod y garthen wedi ei rhannu yn ddwy ac mae’r ddwy ran wedi eu gwnïo gyda’i gilydd yn y canol a llaw i greu un carthen fawr. Doedd gan y ffatri ddim offer i gynhyrchu carthenni ar gyfer gwely dwbl. Felly mi fyddai’r garthen yn cael ei gwehyddu gan ddefnyddio gwŷdd gul a dau ddarn yn cael eu gwnïo yn y canol.

Fe ddaeth y cynhyrchu nwyddau gwlân i ben yn ffatri wlân Maes-y-felin yn Nhrefach yn ystod y 1920au. Er hynny, mae Walter a mam-gu yn cofio cerdded i’r ffatri yn ystod adeg yr ail ryfel byd er mwyn tshiarjo batris gwlyb y weiarles. Mi fyddai’r olwyn ddŵr yn troi’r “generator” a fyddai yn ei dro yn tshiarjo’r batris. Cofia fy mam-gu ei mam yn ei siarsio i fod yn ofalus wrth iddi gerdded yn ôl o Drefach i Gorsgoch a’r batri gwlyb yn ei dwylo rhag ofn i hylif y batri losgi ei chroen a’i dillad. Dyma enghraifft wych o ddiwydiant cefn gwlad yn arallgyfeirio!

Yn aml, mae’r carthenni yma yn werthfawr yn ariannol. Serch hynny, y peth mwyaf gwerthfawr yw’r stori sydd ynghlwm yn y brethyn. Tro nesaf y byddwch yn twrio yn y cypyrddau am flanced, ewch i edrych a oes yna garthen sy’n perthyn i un o’r hen ffatrïoedd gwlân. Os ydych yn ddigon lwcus i fod yn berchen ar un o’r carthenni cywrain yma, trysorwch hi a chofiwch rannu stori’r garthen er mwyn cadw crefft y gwehydd a oedd yn ddolen hanfodol yng nghymdeithas yr oes a fu ar gof a chadw.