Cadeirio a Choroni C.Ff.I. Sir Gâr

Dwy o’r ardal hon yn cipio’r prif wobrau eleni.

Gwawr Bowen
gan Gwawr Bowen

Ar ddydd Sadwrn y 23ain o Hydref cynhaliwyd Eisteddfod C.Ff.I. Sir Gâr yn Neuadd San Pedr, Caerfyrddin. Eisteddfod go wahanol oedd hi eleni gyda dim ond cystadleuwyr, hyfforddwyr ac arweinyddion yn mynychu. Roedd yn bosib i bawb arall wylio’r wledd o adloniant o adref dros y rhyngrwyd.

Prif seremoni’r dydd oedd y Cadeirio a’r Choroni. Y dasg ar gyfer y gadair oedd ysgrifennu cerdd ar y thema ‘ffin’. Yn ystod y seremoni cyhoeddwyd mai Alpha Evans o Glwb Cwmann oedd yn fuddugol.

Eleni graddiodd Alpha o Brifysgol Abertawe gyda gradd Dosbarth 1af yn y Gymraeg ac yn ddiweddar enillodd Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi. Ar hyn o bryd mae hi’n fyfyrwraig ôl-radd adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Abertawe yn gwneud PhD ac mae hi wedi cael ei dewis fel un o lysgenhadon ôl-raddedig y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y flwyddyn. Hi hefyd yw ysgrifenyddes cystadlaethau clwb Cwmann ac yn aelod gweithgar a ffyddlon i’r clwb.

Dadfeddiant/ Digartref oedd y thema ar gyfer y goron gyda’r beirniad yn barnu mai Luned Jones o Glwb Llanllwni oedd yn deilwng o’r wobr gyntaf.

Gwnaeth Luned hefyd raddio eleni, mi enillodd radd mewn Gwyddoniaeth Filfeddygol o Brifysgol Harper Adams. Yn ystod ei blwyddyn olaf bu hi’n llwyddiannus yn ennill Gwobr Myfyriwr Harper Cymru/CAFC. Mae hi wrthi ar hyn o bryd yn astudio am radd Meistr ynghyd â gweithio ar fferm y teulu ger Llanwnnen.

Braf gweld dwy ifanc o ardal Clonc yn fuddugol yn y cystadlaethau yma, tipyn o gamp. Heb os mae Alpha a Luned yn dalentog a phrysur iawn, parhewch ati i serennu. Mae’r ardal yn browd iawn ohonoch a phob lwc i’r ddwy ohonoch ar lefel Cymru.