Mae yn bleser cael ysgrifennu pwtyn byr am bob arlunydd sydd yn byw a gweithio yn ein pentref bychan ni sef Llanfair Clydogau.
Fel mae llawer ohonoch yn gwybod rydym yn cynnal arddangosfa o’n gwaith yn neuadd y pentref yn flynyddol ers rhai blynyddoedd bellach ac yn gobeithio y bydd yn bosib i wneud hynny eto eleni ym mis Awst. Byddwn yn rhoi manylion pellach yn Clonc cyn gynted ac y byddwn yn gallu gwneud y trefniadau.
Mae yn bosib gweld enghreifftiau o waith rhai ohonom ar y wefan yma facebook.
Dyma fanylion y pumed yng nghyfres #CelfLlanfair a gyhoeddwyd ym Mhapur Bro Clonc.
Crochendy Nantyfelin
Mae Jamie a Dodi yn creu crochenwaith stiwdio gwlad ac hefyd cadwyni o waith sgraffito unigol sydd yn addas fel anrhegion personol, penblwyddi neu briodasau.
Mae eu crochenwaith gwlad yn cael eu gwneud o glai teracota ffein wedi ei wydro gyda gwydriad maent wedi greu mewn glas niwlog.
Mae’r sgraffito wedi ei greu gyda llaw yn defnyddio y ffordd draddodiadol o grafu’r patrwm drwy haen o glai ac wedyn ar ôl ei danio ‘bisque’ yn y kiln, ei liwio gyda ‘underglaze oxides’ arbennig.
Cyn dod i fyw i Heol Llanfair roeddynt yn rhedeg crochendy yng Nghernyw, a chyn hynny yn Ffrainc.
Mae yn bleser cael gwybodaeth fod eu siop wedi ail agor a maent yn gobeithio y byddant yn gallu rhedeg eu gwersi a’u gweithdai erbyn mis Mehefin. I gael manylion pellach ewch i’w gwefan.