Chwip o gêm i ferched Llambed

Y Piod Pinc 0 – 88 Llambed

gan Carwen Richards

Cafwyd chwip o gêm i ferched Llambed ddydd Sul oddi cartref yn erbyn Piod Pinc Y Tymbl.  Adroddiad gan Tiffany Jones, Lluniau gan Gwyn Edwards.

Dechreuodd merched Llambed y gêm ar garlam gyda Rhian Thomas yn rhedeg yn bwerus i dorri drwy llinell amddiffynnol y tîm cartref. Dadlwythodd hi i Chloe Fletcher a groesodd y llinell er mwyn sgorio cais agoriadol y gêm, gyda Sioned Jones yn trosi.

Eiliadau yn ddiweddarach, anfonodd merched Llambed y bêl yn llydan a chroesodd yr asgellwraig Sarah Webster y llinell i sgorio’r ail gais.

Roedd y tîm cartref yn edrych fel pe baen nhw am guro yn ôl gydag ymosodiad y tu mewn i 22 Llambed lle daeth Bethan Price yn hynod o agos at y llinell. Er mor fawr eu hymdrechion, cipiodd merched Llambed y bêl o feddiant merched Tymbl dwy waith yn olynol a gwibiodd Sian Davies hyd y cae i sgorio trydydd a phedwerydd gais y tîm oddi cartref. Ychwanegodd Sioned Jones y trosiadau.

Ymosododd Y Piod Pinc yn galed eto ond cafodd Nia Gwyther afael ar bas rhydd a brasgamodd hi dros y llinell i Lambed, gyda Sioned Jones yn trosi.

Cosbwyd amddiffyn Y Piod Pinc pan dorrodd Natasha Roberts drwy’r llinell a sgorio o dan y pyst. Sioned Jones eto’n llwyddo gyda’r trosiad.

Unwaith eto, llwyddodd y canolwyr Sian Davies a Sioned Jones gyda chais a throsiad i barhau i gynyddu’r sgôr. Ychydig cyn y chwiban hanner amser, cafodd Nia Gwyther gyfle i dorri’n rhydd eto ac fe wibiodd dros y llinell gais am yr ail waith, gyda Sioned Jones yn trosi.

Hanner amser: Y Piod Pinc 0 – 52 Merched Llambed

Dechreuodd yr ail hanner yn debyg i’r ffordd y gwnaeth yr hanner cyntaf orffen – gwaith ymosodol cyflym gan Llambed yn arwain at gais gan Sian Davies a throsiad gan Sioned Jones. Yn sgil gwaith cyflym gan Llambed ac ymosodiad cadarn, fe wnaeth Gwenllian Jenkins a Branwen Lewis ychwanegu cais yr un i roi’r ymwelwyr ddeg pwynt arall ar y blaen, a chipiodd Natasha Roberts ei hail gais. Ar ôl hyn, fe wnaeth anaf cas iawn i un o’r Piod Pinc atal y chwarae am gyfnod. Camodd Elin Gapper o Lambed i’r adwy a chwarae yn nghrys Y Piod Pinc er mwyn gwneud y tîm cartref yn dîm llawn.

Er gwaethaf y sgôr, parhaodd Y Piod Pinc i bwyso ar ferched Llambed a gwnaeth Nicole Davies dacl enfawr i anfon Llambed i’r ystlys. Cadwodd Y Piod Pinc afael ar y bêl yn y llinell ac edrychodd Price am doriad i’r gwesteiwyr gyda Tina Thomas yn ei chefnogi, ond enillodd merched Llambed y meddiant unwaith yn rhagor a thorri’n rhydd unwaith eto, gydag Ashley James yn hedfan dros y gwyngalch am gais arall i Lambed.

Gyda’r gêm yn ei 10 munud olaf, roedd Piod Pinc Y Tymbl yn edrych i ymosod ond roedd eu hymdrechion yn ofer pan gafodd yr ymwelwyr afael ar y bêl unwaith eto a chaniatáu i Rhian Thomas redeg i mewn o 30 metr allan gyda Sioned Jones yn trosi ei 9fed trosiad i orffen y gêm. Y Piod Pinc 0 – 88 Llambed.

Sgorwyr Llambed:

Ceisiau – Gwenllian Jenkins, Sarah Webster, Chloe Fletcher, Branwen Lewis, Ashley James, Rhian Thomas, Sian Davies (4), Nia Gwyther (2), Natasha Roberts (2).

Trosiadau – Sioned Jones (9).

Mae buddugoliaeth Merched Llambed dydd Sul yn golygu na all neb eu maeddu i frig y tabl. Maen nhw’n mynd i Benfro ddydd Sul 24 Hydref i chwarae gêm olaf ond un Cam cyntaf cystadleuaeth Plât y URC.