Codi arian wrth gerdded taith rithiol o gwmpas Cymru

Linda ac Eirlys yn cerdded 870 milltir er lles elusen BRACE.

Linda Jenkins
gan Linda Jenkins

Mae Eirlys Evans o Lanarth a finnau o Gwmsychpant yn cerdded 870 milltir sef Taith Rhithiol Arfordir Cymru dros 365 o ddiwrnodau ac yn casglu arian at BRACE Dementia Awareness.

Roedden ni’n gwneud e i ddechrau dim ond er mwyn cael rhywbeth i’w wneud ond wedi penderfynnu codi arian at rhyw achos.  Mae gŵr un o fy ffrindiau â dementia yn ogystal â thad ffrind arall. Mae codi arian yn ein hybu ac yn gwneud yn siwr ein bod ni gwneud e i ddweud y gwir.

Mae BRACE yn elusen sy’n ymroddedig i ariannu ymchwil i Alzheimer a mathau eraill o ddementia. Mae’n elusen ranbarthol, wedi’i lleoli ger Bryste, ac yn ariannu ymchwil wyddonol i achosion, diagnosis a thriniaeth dementia.

Does dim dal faint rydyn ni’n cerdded.  Mae’n dibynnu ar y tywydd.  Mae 365 diwrnod gyda ni i wneud e.  Dechreuais i ar 24ain Ionawr ac Eirlys ar 22ain o Ionawr.

Rydyn ni’n cerdded rownd yr ardal hon neu rownd Llanarth.  Aethon ni o Lanarth lan i Fydroilyn, Dihewyd, Ciliau, Cilcennin, Cross Inn, Pennant, Aberarth ac Aberaeron wythnos ddiwetha.

Rydyn ni wedi codi £240 hyd yn hyn a’r targed yw £300.  Gallwch gyfrannu drwy fynd i wefan justgiving.  Diolch i bawb sydd yn cefnogi.