Campau Comic Relief

Her copaon staff Canolfan Hamdden Llambed heddiw.

gan Arwel Jones
Daniel
Llinos
Rhian-J

Bob blwyddyn mae staff Canolfan Hamdden a Phwll Nofio Llambed yn mynd ati i godi arian tuag at elusennau Plant Mewn Angen, Sport Relief a Comic Relief a dyw eleni ddim gwahanol!

Yr her ar gyfer Comic Relief 2021 yw cael aelod o staff gwahanol ar gopa mynydd lleol ar yr awr bob awr am 12 awr. Roedd angen i’r staff wisgo trwyn coch a hyrwyddo’r gweithgareddau a’r sesiynnau sydd i’w cael yn ein cyfleusterau, gyda’r opsiwn o wisgo lan.

Dechreuodd yr her am 7 o’r gloch bore ‘ma a bydd yn gorffen am 7 heno gyda 12 aelod o staff yn cymryd rhan ar draws y Sir a thu hwnt. Mae pob aelod o staff wedi cyfrannu ar yr elusen ar-lein.

Er mwyn gweld yn gwmws pa aelod o staff oedd ym mha le, yn gwisgo beth ac yn hyrwyddo pa gamp, ewch draw i’n tudalen Facebook – Hamdden Llambed Leisure i weld.