Yn draddodiadol, ym mis Hydref y mae bwrlwm Eisteddfod y Ffermwyr Ifanc. Ond o dan yr amgylchiadau eleni, cynhaliwyd yn mis Mawrth a bu rhaid inni ddangos ein talent ar-lein, yn lle ar lwyfan! Er bod nifer yr aelodau a wnaeth gystadlu yn llai na’r arfer, roedd yr eisteddfod dal yn un hynod o lwyddiannus!
Un o uchafbwyntiau’r Eisteddfod eleni oedd gweld un o’n haelodau, Sioned Howells yn ennill cystadlaethau’r cadeirio a’r coroni. Testunau’r eisteddfod oedd ‘Mwgwd/Mygydau’ ar gyfer y rhyddiaith (y goron) a cherdd ar y thema ‘Cymuned’ (y gadair). Enillodd Sioned gan ddefnyddio’r ffug enwau ‘Sbot’ ar gyfer y goron â ‘Bryn’ gyda’r gadair. Rhaid cofio, nid dyma’r tro cyntaf i Sioned Howells gipio’r goron – ar ôl iddi ennill y goron yn 2017, ac ennill yr ail safle yn 2016 ac yn 2018!
Llongyfarchiadau mawr iti Sioned am ennill y dwbl – tipyn o gamp!
Dyma’r canlyniadau llawn;
1af; Hefin Jones a Siriol Howells – Stori a Meim
3ydd; Erin Davies – Llefaru 19 ac Iau
Adran Gwaith Cartref:
1af; Sioned Howells Rhyddiaeth (Y Goron)
1af; Sioned Howells Cerdd (Y Gadair)
Dyma fideo o’r seremoni Cadeirio a Choroni;
Ar ôl y cystadlu, braint mawr oedd gweld C.FF.I Llanllwni yn cipio’r 3ydd safle yn y gwaith cartref ac yn 4ydd yn y canlyniadau terfynol.
Diolch i’r aelodau a wnaeth gystadlu a llongyfarchiadau i chi i gyd!
Pob dymuniad da i’r rhai a fydd yn mynd ymlaen i Eisteddfod C.Ff.I Cymru ar ddiwedd y mis.
Hefyd, rhaid diolch yn fawr i swyddogion a staff y sir am eu gwaith caled o gynnal eisteddfod go wahanol eleni – Diolch yn Fawr!