Toc wedi 10 bore ma galwyd dwy frigâd dân Llambed i dân difrifol ar Ystad Ddiwydiannol Llambed, ond o fewn 20 munud gwelwyd y tân yn mynd allan o reolaeth oherwydd y deunyddiau hylosg oedd yno.
Cafwyd ffrwydriadau uchel wrth i silindrau a cherbydau gydio a danfon ergydion uchel i’r awyr. Dyma beth oedd sefyllfa beryglus iawn i ddiffoddwyr tân ar alw Llanbed a rhaid diolch iddynt am eu hymdrechion.
Yn ôl Geinor Jones bore ma, sy’n byw yn Ffordd y Gogledd “Rydyn ni’n gallu gweld y mwg yn codi o’r Ystad Ddiwydiannol a wedi clywed cwpwl o ffrwydriadau fyd.”
Oherwydd cyflymder y tân yn ehangu o un cerbyd i’r llall, bu’n rhaid symud y ddwy injan dân ynghyd ag unrhyw gerbydau eraill ymhellach oddi wrth y tân gan ddanfon aelodau o’r cyhoedd oddi yno.
Ymddengys mai tân yn eiddo Tomos Lewis Body Repairs oedd hwn sy’n rhannu adeilad gyda Stiwdio Ddawns Sally Saunders.
Mae Clonc360 arddeall mai compressors a ddefnyddir i chwistrellu paent ar geir oedd wedi ffrwydro.
Llwyddwyd i ddiffodd y tân erbyn diwedd y bore gyda chriwiau tân eraill a’r heddlu’n bresennol.
Y nod oedd atal y tân rhag lledu i adeiladau a busnesau cyfagos eraill a pheryglu unrhyw fywydau.