Diwedd ar dair cenhedlaeth gyda Brigâd Dân Llanbed

Kevin James yn ymddeol wedi 31 o flynyddoedd yn gwasanaethu ei gymuned.

gan Alis Butten

Ymunodd Kevin James â’r frigâd dân yn 1990 fel diffoddwr tân gyda Brigâd Dân Dyfed cyn iddynt newid i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru.

Mae Kevin yn ymddeol eleni ar ôl gweithio yn y swydd am 31 o flynyddoedd. Yn ystod y cyfnod hyn mae e wedi bod yn cymeryd rhan fel swyddog diogelwch cymunedol yn ymweld ag ysgolion a mynychu digwyddiadau yn yr ardal.

Mae Kevin yn un o dair cenhedlaeth i ymwneud â Gorsaf Dân Llanbed ar ôl ei Dad, ei Dadcu a’i Famgu.

Mae Kevin wedi mwynhau ei amser gyda’r frigâd dân yn Llambed a bydd yn gweld eisiau’r cyfan ond mae e hefyd yn annog unrhywun sydd â diddordeb i ymuno â’r frigâd i gysylltu â’u gorsaf dân leol.