Mae’n gas gen i binafal ar bitsa

Ychydig o gyfrinachau’r gyfreithwraig dan hyfforddiant o Gwmann

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis

Yn rhifyn mis Mawrth Papur Bro Clonc mae Melissa Charles-Davies yn rhannu llawer o’i chyfrinachau â’r darllenwyr yn y golofn “Cadwyn y Cyfrinachau”.

Ei harbenigedd yw datrys anghydfodau yn y gwaith ac yn mywyd bob dydd a phetai’n fisged, dywed y byddai’n “Taxi” oherwydd dyna’n union beth ydy hi i’w chariad Bradley!

Y person enwocaf ar ei ffôn symudol yw Dr Nerys Llewelyn Jones, “mae pawb yn nabod Nerys!  Y gwyliau gorau a gafodd oedd yn Ibiza gyda’r merched.

Y celwydd diwethaf iddi ddweud ar un llaw oedd “Mai dim fi yfodd jin pinc Mam i gyd” ac ar y llaw arall ei mam yw’r dylanwad mwyaf arni, “mae hi mor gefnogol.”

Disgrifia ei hunan yn ddibynadwy, cyfeillgar a sassi a’i thalent gudd yw gallu gwneud y splits!

Mynnwch gopi o Bapur Bro Clonc er mwyn darllen llawer mwy am yr haden hon.