Mae’r actores adnabyddus o Lanbed yn gweithio yn Llundain ar hyn o bryd ac yn paratoi ar gyfer perfformiadau o Dan y Wenallt gyda’r National Theatre.
Wedi treulio blwyddyn y cyfnod clo yn ei chartref yn Llanbed, dywed Gillian Elisa ei bod yn teimlo’n gyffrous iawn i fod yn rhan o gynhyrchiad Cymreig gyda chast o enwogion o Gymru.
Bydd Theatr Olivier yn ailagor ar yr 16eg Mehefin gydag Under Milk Wood gan Dylan Thomas a deunydd ychwanegol gan Siân Owen. Michael Sheen sy’n arwain y cwmni actio sy’n cynnwys Susan Brown, Ifan Huw Dafydd, Alan David, Michael Elwyn, Kezrena James, Karl Johnson, Gaynor Morgan Rees, Anthony O’Donnell, Siân Phillips a Cleo Sylvestre.
Dyluniwyd y set a’r gwisgoedd gan Merle Hensel, y goleuo gan Tim Lutkin, y symudiadau gan Imogen Knight, caneuon a gyfansoddwyd gan Edward-Rhys Harry, a sain a chyfansoddiadau ychwanegol gan Donato Wharton.
Perfformir Under Milk Wood yn ystod y dydd a gyda’r hwyr am gyfnod o dros bum wythnos ac mae prisau’r tocynnau yn amrywio o £20 i £89.
Wrth holi Gillian sut brofiad yw gweithio ar ddrama fawr Dylan Thomas a hynny yn Llundain, dywedodd, “Gwefreiddiol, yn enwedig gweithio gyda Michael Sheen a Sian Phillips ac wrth gwrs Gaynor Morgan Rees ac Ifan Huw Dafydd.”
Ychwanegodd Gillian “Mae’n brofiad unigryw iawn. Un funud roeddwn i yn Llanbed yn mwynhau bod gartre, y funud nesa ’roedd Llunden yn galw. Gallen nhw ddim wedi dewis drama mwy addas yn y cyfnod yma, na Under Milk Wood. A chael gweithio gyda’r amryddawn Lyndsey Turner y cyfarwyddwraig sydd wedi ennill sawl gwobr am ei chyfarwyddo graenus.”
Dywed gwefan y National Theatre:
“Mae cymuned yn cysgu. Os gwrandewch yn ofalus, gallwch glywed eu breuddwydion.
Capten y môr wedi ymddeol yn dyheu am ei gariad coll. Y berchnoges yn byw mewn braw o’i gwesteion. Tad na all gael gafael ar ei atgofion mwyach. Mab yn chwilio am brynedigaeth.
Wrth iddyn nhw ddeffro i wyau wedi’u berwi a’r postmon, mae trigolion pentref bach yng Nghymru yn jyglo hen gyfrinachau a realiti newydd.
Mae Michael Sheen, Karl Johnson a Siân Phillips yn ymddangos yn y cwmni actio sy’n anadlu bywyd newydd i gampwaith barddonol Dylan Thomas. Lyndsey Turner sy’n cyfarwyddo.”
Cymeradwyir y theatr gan gynllun See It Safely dan oruchwyliaeth Official London Theatre, felly gellir teimlo’n hyderus o wybod bod staff, artistiaid a chynulleidfaoedd yn ddiogel o ran COVID yn seiliedig ar ganllawiau diweddaraf y llywodraeth.
Bydd seddi yn Theatr Olivier yn cael eu pellhau’n gorfforol trwy gydol rhediad Under Milk Wood. Bydd tocynnau ar gael i aelwydydd a swigod cymorth eu prynu mewn senglau, parau neu grwpiau o 3 neu 4 o bobl. Byddwch hefyd yn cael cyfle i gael gafael ar docynnau Dydd Gwener cyflym yn agosach at bob perfformiad. Cyn eich ymweliad, byddwch yn derbyn e-bost gyda’ch amser cyrraedd penodol. Er mwyn cael eich derbyn i’r adeilad, bydd angen i bawb dros 16 oed ddarparu manylion cyswllt ar gyfer Prawf ac Olrhain y Gwasanaeth Iechyd wrth gyrraedd.
Pob dymuniad da i Gillian Elisa ar y fenter newydd hon. Oes rhywun yn mynd i Lundain i weld perfformiad? Cofiwch gyhoeddi adolygiad neu sylwadau ar wefan Clonc360.