Gwasanaeth ailgylchu coed Nadolig yn Llambed

Eleni mae Gwasanaethau Coed Llambed yn cynnig gwasanaeth ailgylchu coed Nadolig, a’r arian i gyd yn mynd at achos da

gan Gwasanaethau Coed Llambed
3008https://www.theguardian.com/commentisfree/2018/dec/19/real-christmas-trees-are-the-greener-choice
IMG_0363https://www.walesairambulance.com

Mae 2021 wedi cyrraedd o’r diwedd ac mae’n amser yna o’r flwyddyn unwaith eto – ffarwelio â Nadolig a thynnu’r addurniadau i lawr.

Er bod hyn yn gallu profi’n jobyn diflas, eleni mae modd i ni gyd fod tipyn mwy gwyrdd wrth i ni waredu ein coed Nadolig, a chefnogi elusen deilwng ar yr un pryd – Ambiwlans Awyr Cymru.

Am y tro cyntaf mae Gwasanaethau Coed Llambed, sydd yn gwmni teuluol o dair cenhedlaeth, yn cynnig gwasanaeth ailgylchu coed Nadolig i’r gymuned. Bydd yr arian a gesglir i gyd yn mynd at achos da.

Mae 8 miliwn o goed go iawn yn cael eu prynu yn y Deyrnas Unedig ar gyfer y Nadolig bob blwyddyn, ac felly mae’r ffordd yr ydyn yn eu gwaredu yn bwysig ofnadwy.

Yn ôl y BBC, trwy ailgylchu coeden 2 fedr o hyd yn hytrach na’i waredu i safle tirlenwi, gallwch leihau eich ôl troed carbon hyd at 80%.

Felly eleni, ewch â’ch coed i iard Gwasanaethau Coed Llambed lle byddant yn medru ail ddefnyddio’r pren fel chip neu gompost ac yn sicrhau na fydd eich coeden chi yn gweld diwedd ei hoes mewn safle tirlenwi.

Croesawir cyfraniadau am y coed gydag isafswm o £3, ac fe fydd yr holl roddion yn mynd at elusen Ambiwlans Awyr Cymru, sef elusen sydd â’r nod o godi £8 miliwn bob blwyddyn er mwyn sicrhau eu bod yn gallu cadw i hedfan a pharhau i achub bywydau. 

Fe allwch fynd a’ch coed i iard Gwasanaethau Coed Llambed yng Nghae Celyn, Heol Llanfair, Llambed, SA48 8JX o’r 4ydd o Ionawr ymlaen rhwng 8yb i 5yh ar ddiwrnodau’r wythnos, ac o 9yb i 1yp ar ddydd Sadwrn.