Yma yn Neuadd Fictoria, Llambed (Venue Llambed), a reolir gan Grŵp Datblygu Cymunedol Llambed, rydym yn gyffrous i gyhoeddi ein bod yn gweld dechrau ar weithgareddau yn dychwelyd i’r neuadd ers i’r covid ddechrau. Diolch i arian o Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a Llywodraeth Cymru, mae grwpiau lleol fel Cwmni Theatr Stage Goat, Dynamik Dance, Undeb Credyd Save Easy a llawer mwy wedi defnyddio’r lle at ddefnydd y gymuned.
Yn dilyn grant gan yr RCDF, rydym wedi gallu adnewyddu gofod mewnol y neuadd i roi bywyd newydd i’r lleoliad cymunedol bywiog hwn. Ar hyn o bryd, mae Venue Llambed a Chwmni Theatr StageGoat yn cynnal ystod o weithgareddau cynhwysol a hygyrch am ddim i bobl yn y gymuned, gan gynnwys pobi, celf a chrefft, ffotograffiaeth, ddawns a llawer mwy.
Un digwyddiad pwysig sy’n dechrau heno yw ‘Coffi a Chlonc’ sef cyfle i gwrdd a sgyrsio yn Gymraeg. Cynhelir y sesiwn gyntaf heno ac yna bob nos Iau rhwng 7 a 9 o’r gloch.
Mae archebu’n hanfodol ar gyfer y rhan fwyaf o’r gweithgareddau gan fod lleoedd yn gyfyngedig, ond rydym yn gyffrous iawn i groesawu’r gymuned i’r neuadd yr haf hwn ac yn y dyfodol. Am fwy o wybodaeth anfonwch e-bost atom yn info@vichall.org.uk neu cysylltwch â ni ar 01570421305.