Hanes Doreen Evans, Gorsgoch oedd yn faciwî o Lerpwl. 

 hithau’n Sul y Cofio, Doreen Evans a ddaeth i fyw ym mhentref Gorsgoch adeg yr Ail Ryfel Byd sy’n rhannu ei hatgofion. 

gan Carys Wilson
Doreen ac Alun.

Doreen ac Alun.

Willie ar gefn ei feic tu allan i siop Gorsgoch.

Willie, ar gefn ei feic tu allan i siop Gorsgoch.

Doreen gyda Alun, ei chwiorydd Ivy ac Eileen ynghyd ac aelodau eraill y teulu.

Doreen gydag Alun, ei chwiorydd Ivy ac Eileen ynghyd ac aelodau eraill o’r teulu.

Trefnwyd cyngerdd i ddathlu diwedd yr Ail Ryfel Byd yn y pentref (tu allan i'r warws gyferbyn â'r siop) a the yn y festri i ddilyn. Dyma Doreen yn cymryd rhan yn y gyngerdd.

Trefnwyd cyngerdd yn y pentref (tu allan ger y warws gyferbyn â’r siop) i ddathlu diwedd yr Ail Ryfel Byd a the yn y festri i ddilyn. Dyma Doreen yn cymryd rhan yn y gyngerdd.

Calendr Siop Gorsgoch 1939.

Calendr Siop Gorsgoch 1939

Heb unrhyw amheuaeth, byddai bywyd Doreen Evans wedi bod yn dra gwahanol pe na fyddai Hitler wedi ceisio concro Ewrop a dechrau’r Ail Ryfel Byd. Mwy na thebyg, byddai Doreen erioed wedi clywed y gwcw yn canu ar y gors i ddynodi dechrau’r gwanwyn nac ychwaith wedi teimlo’r wefr o ganu gyda Chôr Brethyn Cartref.

Docs Lerpwl – “Odd y docs yn i chal hi.”

Ar ddechrau’r Ail Ryfel Byd, roedd Doreen yn byw gyda’i theulu mewn stryd o dai teras yn rhif 5 Beresford Road, Dingle sef rhan o ardal y dociau yn Lerpwl. Roedd hi’n un o saith o blant. Yn ystod y rhyfel, bu’r dociau yn darged pwysig i’r Natsiaïd ac fe ddinistriwyd yr ardal yn llwyr gan gyrchoedd awyr y Luftwaffe. Yn Lerpwl, cafodd mwy na 4,000 o bobl eu lladd a mwy na 10,000 o dai eu difrodi.

Yr ysgol oedd cysgodfan y teulu rhag bomiau’r Natsiaïd, a threuliodd Doreen sawl noson yn cysgu ar lawr yr ysgol gyda dim ond hen sachau i’w chadw’n gynnes tra’n disgwyl am seiren yr ‘All Clear’. Un noson, fe laniodd bom ar Beresford Road, yn agos iawn i’w chartref, ac fe chwalwyd rhai o’r tai ar hanner isaf y stryd.

Codi pac i bentref Gorsgoch

Un bore yn yr ysgol, cyhoeddodd yr athrawes fod yna gyfle i’r disgyblion symud i fyw i ddiogelwch y wlad petai eu rhieni neu eu gwarchodwyr yn cytuno. Cafodd Doreen sêl bendith i adael Lerpwl, ac yn gyntaf aeth ei chwaer Eileen a hithau i fyw i Swydd Gaer cyn dychwelyd i’r ddinas am gyfnod.

Ond wrth i gyrchoedd awyr y Luftwaffe barhau, rhaid oedd i Doreen godi pac unwaith eto a hithau ond yn ddeg mlwydd oed. Felly, yng nghwmni ei chyd-ddisgyblion a’u hathrawes Miss Parkes, teithiodd ar y trên yr holl ffordd i stesion Llanybydder, cyn cael ei chludo ar fws i bentref Gorsgoch. Yr unig eiddo oedd ganddi yn ei bag oedd ychydig ddillad, masg nwy a’r llyfr ‘rations’ holl bwysig.

Cartref cysurus yn siop y pentref

Aeth i fyw at Daniel a Mattie Evans yn Rosehill, sef siop y pentref. Yn hwyrach, symudodd ei chwaer Eileen a’i brawd Willie hefyd i Gorsgoch; aeth Eileen i fyw i Pisgah a Willie i’r siop.

Yng nghanol prysurdeb a bwrlwm y siop treuliodd flynyddoedd hapus iawn yn y pentref. Roedd hi’n teimlo’n hollol gysurus a chafodd ei sboilo’n rhacs, yn enwedig adeg y Nadolig. Nid yn unig fyddai hi yn derbyn anrhegion oddi wrth Wncwl Dan ac Anti Mattie ond byddai bron pob teulu yn y pentref yn prynu anrheg iddi. Meddai,

“Ges i lot o bresanton. Ron i’n cal presanton da pob un. Odd pobol yn dod i’r siop a on i’n cal anrhegion wrthyn nhw gyd. Amser dolig tweld”.  

Cafodd ei chofleidio gan y gymuned a phawb yn gwneud eu gorau glas i wneud iddi deimlo mor gysurus a phosib yn ei plith.

Yr ysgol

Wedi ymgartrefu yn y siop, daeth hi’n amser i fynd i’r ysgol. Aeth i Ysgol Cwrtnewydd am gyfnod cyn symud i Ysgol y Blaenau, Gorsgoch. Roedd hi’n cael tipyn o antur wrth deithio i’r ysgol yng Nghwrtnewydd. Meddai,

“O’n i’n cal reid ambell waith pan se siop ffili mynd lawr â fi…odd Myrddin yn gwitho yn y siop a odd e’n mynd lawr â fi wedyn ar moto-beic”

Bu Doreen fawr o dro yn dysgu Cymraeg yn sŵn y plant eraill, ac ymhen hanner blwyddyn roedd hi’n rhugl. Yn ystod y gaeaf, byddai’r plant yn mynd â thoc o fara i’r ysgol i fwyta gyda’r cawl amser cinio ond doedd Doreen ddim yn gyfarwydd â bwyta cawl yn Lerpwl. Meddai,

“Na beth odd da ni…cawl i gino bod dydd; doedd dim un altrad. Cawl o hyd o hyd. O’n i ddim yn meddwl lot ambiti fe. A fuon nhw’n gwithio rhw bethe bach yn wahanol i fi.”

Felly, doedd dim amdani ond bwyta Cornflakes i ginio hyd nes iddi ddechrau cael blas ar y cawl!

Plentyndod yng nghefn gwlad

Bu Dan a Mattie yn ofalus iawn ohonni a hithau’n gyfforddus iawn yn ei chartref newydd yn Rosehill. Roedd hi wrth ei bodd yn scwlca ambell i switsen tu ôl i gownter y siop a mynd am wac ar gefn ei phoni lawr i Bont y Felin a thrwy gwm Penlan.

Uchafbwynt yr wythnos oedd gwersi ‘miwsic’ ar fore dydd Sadwrn a chyd-gerdded gyda’i ffrind gorau, Martha Pantycric i’r gwersi yn Llwynfallen, Cwrtnewydd. Byddai’r ddwy yn cloncan bob cam o’r ffordd i’r wers a cherdded ar hyd y llwybr tarw, gan groesi caeau Maes y Garn a Bryngranod.

Y Luftwaffe yn bwrw gered

Ond, roedd yna adegau gofidus hefyd, yn enwedig gyda’r nos, wrth iddi glywed sŵn hymian awyrennau’r Luftwaffe. Byddai’r sŵn yn codi ofn arni a hithau’n becso beth fyddai tynged ei theulu a’i chymdogion yn Dingle unwaith fyddai’r Luftwaffe yn cyrraedd glannau’r Mersi. Meddai,

“O’n i’n clywed y plens yn mynd hibo yn y nos. Ro’n i’n cal ofan – wath o’n in gwbod shwt odd pethe ‘nol yn Lerpwl.”

Setlo yng Ngorsgoch

Ymhen amser, symudodd Doreen yn ôl i Lerpwl a bu’n gweithio am gyfnod mewn ysbyty yn Everton. Ond, roedd hi’n hiraethu am y pentref a hithau wedi’i chyfareddu gan y bobl a’u ffordd o fyw. Felly, dyma benderfynu symud yn ôl i’r pentref a Gorsgoch sydd wedi bod yn gartref iddi ers hynny.

Ym 1955 fe briododd Doreen ac Alun yng Nghapel Brynhafod a’r ddau wedi magu dau o fois, Kevin a Clive, yn Gymry Cymraeg. Erbyn heddiw, mae Doreen yn hynod o falch o allu dweud ei bod yn perthyn i gymuned glòs, Gymreig pentref Gorsgoch.