Hanes Gorsaf Drenau Llanybydder

Atgofion trigolion yr ardal am Orsaf Llanybydder ym Mhapur Bro Clonc.

gan Carys Wilson

Gorsaf Llanybydder ymhlith holl orsafoedd y lein o Gaerfyrddin i Aberystwyth.

Yn rhifyn Chwefror Papur Bro Clonc, gallwch ddarllen atgofion rhai o drigolion yr ardal am Orsaf Drên Llanybydder.

Mae bron i ugain mlynedd wedi mynd heibio bellach ers i mi fynd ati i hel atgofion am yr orsaf ac i geisio rhoi’r hanesion ar gof a chadw. Erbyn hyn, rwy’n falch iawn fy mod i wedi gwneud gan mai’r orsaf drên oedd canolbwynt masnach a chymdeithas y fro ‘slawer dydd.

Teithiodd y trên cyntaf ar hyd Rheilffordd Dyffryn Teifi ar y 1af o Fehefin 1866. Cyn pen fawr o dro, roedd y trên bach yn rhan annatod o fywyd beunyddiol pobl Llanybydder a’r cylch.

Wyddoch chi nad oedd angen cloc ar y trigolion a oedd yn byw yng nghyffiniau’r orsaf? Sut felly? Wel, gan fod y trenau yn rhedeg yn brydlon ac ar yr un amser bob dydd.

Roedd y trên hefyd yn arwydd ei bod yn amser bwyd, gan fod y trên post yn teithio am saith o’r gloch, un arall am ddeuddeg, trên te am bedwar a’r olaf am chwech o’r gloch. Pan fyddai fy nhadcu allan yn gweithio yn y caeau gyda’i geffylau mi fyddai hyd yn oed y ceffylau yn gwybod ei bod yn amser bwyd, ac yn gorffwys pan glywent y trên yn pwffian heibio!

Tybed a ddaw rhamant y rheilffordd yn ôl i’r ardal? O dro i dro, ceir awgrym fod yna bosibilrwydd y gwelwn y lein yn ailagor.

Yn y dyfodol, pwy a ŵyr, efallai cawn deimlo’r un gwefr â’n cyndeidiau wrth weld y trên yn cyrraedd gorsaf Llanybydder yn cludo pobl, anifeiliaid a nwyddau o bob lliw a llun.

Cofiwch brynu rhifyn Chwefror Papur Bro Clonc er mwyn darllen yr hanes. Hefyd, mi fydd cyfle i ddarllen rhagor o’r hanes yn rhifynnau Mawrth ac Ebrill Papur Bro Clonc.