Her 24 awr Huw Jenkins

Huw Jenkins a fu’n cerdded 60 milltir mewn 24 awr er mwyn codi arian er cof am ffrind.

gan Carwen Richards
Clwb Rygbi Llambed

Huw a Barry

Llanybydder

Barry, Huw, Meurig a Carwen

Brecwast gyda Brenda a Helena
Barod am swper!

Barry, Cerys, Ben, Huw a Gwenllian

Cors Caron
Clwb Rygbi Llambed

Huw a Barry

Cwmann i Bencarreg
Y bore bach
Llanbedr Pont Steffan

Carwen, Sion, Geraint, Barry, Sioned, Sulwen, Huw, Rhys, Rhys, Gwyneth, Elfyn a Hefin

Rhedeg rhywfaint!
Dion a Hali'n cefnogi

Dion, Hali a Huw

Y Falcondale
Alltyblaca
WD Lewis, Llambed

Carwen, Huw, Dafydd (WD Lewis), Barry, Meurig a Linda

Cwmann
Ystrad Meurig
Clwb Rygbi Tregaron

Cerian, Cerys, Gwenllian, Ben, Huw, Barry, Lyn a Luc

Yng nghwmni cawod o law a chriw o deulu a ffrindiau, cychwynnodd Huw ei daith faith am 4yp ddydd Gwener gan wneud ei ffordd o Glwb Rygbi Tregaron i Gors Caron.

Wedi cerdded llwybr y gors am agos at dair awr, dychwelodd y cerddwyr i Glwb Rygbi Tregaron am blataid hyfryd o ham, wŷ a tsips!

Cyn i’r cyhyrau ymlacio gormod, bwrw am Lambed wnaeth Huw yng nghwmni Barry, gan droedio’r heolydd cefn drwy Landdewi Brefi, Llanfair Clydogau a Chellan yn y tywyllwch. Cafwyd tipyn o sbort pan ddaeth criw newydd o deulu a ffrindiau i ymuno yn y cerdded ac ymhen dim, cyrhaeddodd Huw a Barry yn Llambed cyn canol nos.

Ond, er yr holl gyffro o fod wedi cwblhau dros 20 milltir mewn 8 awr, roedd traed Huw’n dechrau gwegian. Stopiodd y bechgyn tua 2yb er mwyn bwyta rhywfaint, cyn dechrau cerdded o amgylch dref Llambed am weddill yr oriau mân. Â hithau’n ganol nos, roedd y cefnogwyr nawr yn brin – diolch byth am gwmni Barry pob cam o’r ffordd.

Ar ôl troedio palmentydd y dref am oriau gyda chwmni un neu ddau arall o ffrindiau a theulu, ymlwybrodd Huw a Barry lan i Gwmann erbyn 7.30yb am frecwast.

Cychwyn cerdded eto cyn 8.30yb a galw yn WD Lewis, Llambed er mwyn diolch iddyn nhw am noddi’r crysau melyn llachar.

Er bod y tywydd yn arw, roedd tân ym mola Barry ac roedd hyn yn ysbrydoliaeth i Huw. Bant â nhw i Lanybydder drwy Bencarreg.

Nesaf, cerdded drwy Alltyblaca i Lanwnnen, a chasglu capiau Tir Dewi gan Y Parchedig Wyn Thomas a ddaeth i wylio’r criw’n cerdded. Ar adegau, roedd Huw’n rhedeg yn ei flaen – roedd e’n ffyddiog bod hynny’n gwneud llai o boen na cherdded! Wedyn, mynd am Lambed drwy Bentrebach a chyrraedd Clwb Rygbi Llambed erbyn amser cinio gydag ond chwe milltir i fynd.

Erbyn 1yh, roedd bechgyn rygbi Tregaron a Llambed yn dechrau cyrraedd y Clwb Rygbi er mwyn paratoi ar gyfer eu gêm oedd i ddechrau am 2.30yp. Roedd hi’n bryd gadael er mwyn medru cyrraedd yn ôl mewn pryd i’w gwylio’n chwarae, ac felly cerdded am Y Falcondale. Roedd Huw a Barry’n parhau i herio’i gilydd ar hyd y daith.

Cyrhaeddodd Huw a Barry nôl yng Nghlwb Rygbi Llambed erbyn 2.30yp, a buon nhw’n parhau i gerdded/ rhedeg tra’n gwylio’r gêm. Am 4yp, daeth y daith i ben; roedd Huw a Barry wedi cwblhau’r her o gerdded 60 milltir mewn 24 awr.

Os hoffech chi gyfrannu’n ariannol, dyma ddolen justgiving Huw.