Llwyddiant yn yr Eisteddfod Sir a Seiat Holi C.Ff.I Cwmann

Hanes C.Ff.I Cwmann dros yr wythnosau diwethaf

gan alphaevans

Fel arfer, mi fyddai Eisteddfod C.Ff.I Sir Gaerfyrddin wedi ei chynnal ym mis Hydref, ond eleni oherwydd sefyllfa a chyfyngiadau’r Coronafeirws, cynhaliwyd yr Eisteddfod ar-lein yn hytrach nag ar lwyfan!

Llongyfarchiadau mawr i Elan Jones o Glwb Cwmann ar ennill y gystadleuaeth Lefaru dan 19 oed. Rydym yn edrych ymlaen at dy weld yn ôl yn cystadlu ar y llwyfan pan fydd modd gwneud hynny!

Diolch yn fawr hefyd i swyddogion a staff y Sir am eu holl gwaith caled wrth baratoi a chynnal yr Eisteddfod eleni.

Rydym fel clwb hefyd wedi bod yn cynnal digwyddiadau dros Zoom am nad ydym yn medru cwrdd yn Neuadd St. Iago, Cwmann.

Cynhaliwyd Seiat Holi nos Wener ddiwethaf gyda Dafydd Lewis, Llywydd y clwb yn arwain. Roedd tri wyneb cyfarwydd ar y panel, sef Elin Haf Jones, cyflwynwraig ‘Cyw’; Meinir Howells, cyflwynwraig ‘Ffermio’; a Iestyn Russell, un o arweinyddion a chyn-aelodau’r Clwb.

Diolch yn fawr i’r tri am eu hamser, roedd pawb wedi mwynhau yn eu cwmni ac roedd yn ddiddorol iawn cael dysgu mwy amdanynt a’r hyn a wnaeth eu hysbrydoli i ddilyn eu gyrfaoedd presennol.