Ar nos Wener 6 Awst bydd rhaglen awr ar S4C yn rhoi platfform i rai o artistiaid blaenllaw Cymru
Bydd Sian Eleri (BBC Radio 1, BBC Radio Cymru) yn ein tywys drwy warws yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llanybydder wrth i ni gwympo i mewn i fyd Merched yn Gwneud Miwsig gyda thrysorau a thrugareddau yr Eisteddfod Genedlaethol yn gefnlen i berfformiadau byw gan Adwaith, Asha Jane, Eädyth Crawford, Hana Lili, Thallo, Gwenno Morgan a Casi Wyn.
Mae Merched yn Gwneud Miwsig yn brosiect ar y cyd rhwng Maes B a Chlwb Ifor Bach. Cyn i pandemig Covid-19 fwrw roedd y prosiect yma’n dod â merched ifanc ar draws Cymru at ei gilydd i ddysgu sgiliau newydd gan rai o fenywod blaenllaw y sîn gerddorol yng Nghymru. Gweithdai megis — cyfansoddi gyda Heledd o HMS Morris, sesiwn offerynnau gyda’r band Adwaith, gweithdy DJio gyda Anya Bowcott a sesiwn gelf gyda Ani Saunders a Elin Meredydd.
Yn sgîl llwyddiant y gweithdai yma, mae’r brand wedi tyfu ac ry’n ni’n manteisio ar hyn drwy gynnig platfform i fenywod sy’n creu cerddoriaeth yng Nghymru.
Dywed Elin Edwards, prif leisydd Thallo — ‘Mae Merched yn Gwneud Miwsig yn arddangosiad wych o dalent creadigol merched Cymraeg. Mae’n hwb mawr gweld gwaith creadigol ac ysbrydoledig yn llifo drwy Gymru ar hyn o bryd. Dydw i erioed wedi perfformio mewn lleoliad unigryw fel hyn o’r blaen ac roedd yn fraint cael fy newis ymysg artistiaid eraill anhygoel.’
Meddai Sian Eleri– ‘Mae Merched yn Gwneud Miwsig yn brosiect hynod o gyffrous ac rydw i wrth fy modd yn cael bod yn rhan o’r rhaglen hon sy’n rhoi llwyfan i gymaint o gerddorion talentog. Gyda chymaint o gerddoriaeth arbennig yng Nghymru ar hyn o bryd, mae’n wych rhoi sylw i’r menywod yma yn enwedig mewn lleoliad sydd mor anhygoel.’