Yn gyn-ddisgybl Ysgol Bro Pedr, a chyn-weithiwr W D Lewis a’i fab, mae Nathan Charles-Davies wedi rhagori yn ei yrfa newydd gyda Gwarchodlu Cymreig Byddin Prydain.
Cychwynnodd Nathan ei raglen hyfforddi 28 wythnos ar ddechrau’r flwyddyn ac mae wedi’i leoli yn Catterick ers hynny.
Mae Nathan wedi wynebu wythnosau o ymarferion blinderus a gwaith driliau gan hefyd ddioddef o’r Coronafirws yng nghanol ei hyfforddiant.
Yn ystod yr hyfforddiant, mae recriwtiaid yn cael eu haddysgu am bwysigrwydd disgyblaeth, uniondeb, teyrngarwch a pharch at eraill. Maen nhw’n dysgu bod bod yn filwr yn golygu rhoi eraill yn gyntaf a chael y dewrder i wybod beth yw’r peth gorau i wneud mewn unrhyw sefyllfa.
Cwblhaodd Nathan ei hyfforddiant a phasiodd yn ystod y mis hwn. Yn 17 oed yn unig, mae Nathan yn un o lai na hanner y recriwtiaid gwreiddiol i gwblhau’r hyfforddiant oherwydd dwyster y rhaglen.
Nid yn unig oedd Nathan yn un o’r ieuengaf o’r Gwarchodlu Cymreig i gwblhau ei hyfforddiant yn y parêd diweddaraf, ond hefyd derbyniodd wobr o fri, sef ‘Milwr y Milwyr’.
Mae’r wobr hon yn cael ei chyfleyno i’r hyfforddai sy’n derbyn y nifer uchaf o’r pleidleisiau mewn balot gyfrinachol ymysg holl recriwtiaid y platŵn. Mae’n cael ei chyflwyno i’r unigolyn sydd wedi gweithio’n ddiflino er budd eraill, cynnal morâl a dangos rhinweddau arweinydd gwych.
Mae teulu Nathan yn hynod falch ohono ac ry’ ni gyd yn dymuno’r gorau iddo yn ei rôl newydd fel Gwarchodwr.